Grant Ymchwil A Datblygu

1. Cyflwyniad

Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gefnogi Ymchwil a Datblygu ac arloesi mewn datblygu economaidd a busnesau, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu Grant Ymchwil a Datblygu Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nod yr ymyriad grant hwn yw cryfhau ymchwil a datblygu ac arloesi yn yr ecosystemau entrepreneuriaid lleol a chefnogi busnesau yn ystod camau cynnar datblygu cynnyrch, proses a/neu wasanaeth arloesol o fewn gweithrediad a/neu sector busnes, marchnad ac ati.

Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a Mewnfuddsoddwyr i ymgymryd â chynnyrch, proses a/neu ddatblygiad i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy.

Mae'r grant bellach ar gau ar gyfer mynegiadau diddordeb newydd. Os hoffech ychwanegu eich enw at restr aros, fel eich bod yn cael gwybod am unrhyw gyfleoedd grant busnes yn y dyfodol, anfonwch eich ymholiad drwy e-bost at BusinessFund@sirgar.gov.uk