Parth Bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/12/2023

Y Parth Bwyd, wedi ei angori gan rai o enwau mwyaf nodedig y sector cynhyrchu bwyd, yw calon Parth Twf Cross Hands. Mae cynnyrch a chynhyrchiant y parth bwyd yn ddiarhebol, gyda’r safle’n cyflogi ymhell dros 1,500 o bobl yn y diwydiant bwyd, a’r rheini oll yn rhan o’r broses gwerth-ychwanegol o gynhyrchu bwyd. Argaeledd tir, gweithlu medrus, rhwydwaith o gysylltiadau buan â marchnadoedd a chymhellion ariannol oedd yr ysgogiadau allweddol i’r twf a welwyd hyd yn hyn.

Ffurfiwyd y safle oherwydd awydd cyflogwr cyfagos i ehangu, ynghyd â gweledigaeth economaidd uchelgeisiol ar ran Cyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru. Ar sail treftadaeth gref yn y diwydiant bwyd, penderfynwyd bwrw ymlaen i sefydlu Parc Bwyd Cross Hands. Mae hi bron yn 10 mlynedd ers i Dawn Meats Group gwblhau eu datblygiad 200,000 troedfedd sgwâr a fu’n angor i’r safle. Hwn oedd y catalydd a achosodd i’r parc ddenu cyflogwyr pwysig eraill fel Bwydydd Castell Howell, cyfanwerthwr annibynnol mwyaf Cymru. Mae Castell Howell newydd ehangu eu gweithgareddau yn y parc ymhellach gyda phartneriaeth i ddatblygu cyfleuster cigydda Celtica.

Yn ychwanegol at y datblygiadau hyn, datblygwyd cymhlyg hapfasnachol 30,000 troedfedd sgwâr o faint wedi ei anelu at gwmnïau llai – bu hyn yn llwyddiant diamheuol o’r cychwyn cyntaf gyda llawer o’r tenantiaid gwreiddiol yn mwynhau twf anhygoel ac un, yn enwedig, yn mynd ati i godi eu cyfleuster pwrpasol eu hunain drws nesaf i’r unedau.

Mae’r cyfleoedd yn y parc bwyd yn glir bellach – twf. Gyda sawl erw o dir ar gael ar gyfer y busnes iawn, a rhwydwaith cefnogol ar gyfer y sector a’r safle, mae cyfle yma i gynhyrchwyr bwyd ddatblygu eu statws mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ym Mharc Bwyd Cross Hands.