Parth defnydd cymysg

Diweddarwyd y dudalen ar: 28/11/2023

Mae’r safle 21 hectar hwn sydd i’r gogledd-orllewin o Barth Twf Cross Hands, ac sydd i’w weld yn glir o’r A48 i Gaerfyrddin, yn cynnig amrywiaeth o ddefnyddiau, ac mae’r gwaith adeiladu ar gyfer nifer ohonynt yn mynd rhagddo. Mae’r safle cyfan wedi cael ei ddatblygu trwy bartneriaeth cyd-fenter rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a George LB, datblygwyr eiddo.

Mae Gorllewin Cross Hands yn gobeithio denu datblygiad manwerthu mawr a allai greu 350 o swyddi newydd yn y parth. Rhagwelir y bydd y safle hwn yn denu rhyw £24m o fuddsoddiad sector preifat. Mae Conygar wedi caffael a datblygu elfen fanwerthu’r safle ac mae cyfran helaeth eisoes wedi’i llenwi. Hefyd, mae cyfleoedd pellach ar gyfer datblygiadau preswyl ar y safle hwn yn ogystal â’r rheiny ym mharth defnydd cymysg Gwaith Brics Emlyn, a rhagwelir y bydd oddeutu 250 o dai newydd yn cael eu codi. Dymunir hefyd gael datblygiadau ategol megis canolfan gofal meddygol a defnyddiau cysylltiedig ar gyfer Gorllewin Cross Hands.

Yn union gerllaw safle Gorllewin Cross Hands saif Ysgol Uwchradd newydd Maes y Gwendraeth, a sefydlwyd o ganlyniad i gyfuno dwy ysgol leol mewn modd trawsnewidiol. Mae’r ysgol newydd hon yn gwasanaethu Parth Twf Cross Hands a’r rhanbarth ehangach, ac mae’n darparu gwell cyfleusterau addysgu o ran Dylunio, Technoleg a Gwyddoniaeth. Mae cyfleusterau chwaraeon ychwanegol wedi cael eu datblygu ynghyd ag arosfannau bws newydd.

Mae maint Gorllewin Cross Hands yn golygu y bydd yn rhaid buddsoddi mwy yn y seilwaith trafnidiaeth leol – mae ffyrdd hanfodol ychwanegol wedi cael eu creu o amgylch pen gorllewinol a phen deheuol y safle sydd oll yn gysylltiedig â’r Parth Twf ehangach.