Parth preswyl a defnydd cymysg

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/12/2023

Mae safle gwaith Brics Emlyn yn broject defnyddcymysg cyffrous ac uchelgeisiol sydd yn adfywio llwyfandir mawr, ôl-ddiwydiannol. Daeth y gwaith i ben yn y nawdegau cynnar yn yr hyn a oedd yn waith brics gweithredol olaf de Cymru. Adlewyrchir posibiliadau adfywio’r safle trwy’r ffaith iddo gael ei glustnodi ar gyfer defnydd cymysg yn y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd yn ddiweddar, gan gynnwys datblygiad tai sylweddol o ryw 250 o unedau ynghyd â chyfleusterau cymuned, masnachol a chyhoeddus. Mae’r safle’n 21 hectar o faint, a’r gobaith yw y bydd ei amryw ddefnyddiau’n cynnig mwy byth i’r farchnad.

Mae’r safle, sydd i’r gogledd o Barth Twf Cross Hands, yn gyfle sy’n deillio o ganlyniadau rhagolygon twf economaidd yn y parth ei hun. Tybir mai cynyddu a wna’r boblogaeth a’r galw am dai yn y parth a’i gyffiniau – unwaith eto, lleoliad y Parth Twf yw un o’i nodweddion allweddol a mwyaf blaenllaw. Ar sail hynny, cynllunir datblygiadau cludiant ychwanegol, yn cynnwys ffordd gysylltu uniongyrchol â’r A476 i Fanceinion, a fydd yn caniatáu i rafnidiaeth symud yn hwylus o fewn ac o gwmpas safleoedd allweddol yn y parth.

Mae gwaith eisoes ar y gweill ar ffyrdd mynediad ac amlinelliad adeiladu ar y safle a bydd perchenogion presennol Gwaith Brics Emlyn yn cydweithio’n glòs â Chyngor Sir Gâr i ddarparu’r elfen gyffrous hon o’r Parth Twf.