Cyflymu ac Adfywio Economaidd drwy Arloesedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/08/2023

Nod prosiect EARTh yw nodi cyfleoedd i feithrin gallu sefydliadol, gallu a threfniadau gweinyddol ar draws y pedwar Awdurdod Lleol sy'n rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe, yn benodol ar draws pedair thema allweddol Datblygu Economaidd; Ynni; Trafnidiaeth a Chynllunio Defnydd Tir.
Ariennir y rhaglen drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop Echel Blaenoriaeth 5 – Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweithio'n Rhanbarthol a bydd yn gweithio ar y cyd ar draws y rhanbarth fel partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe.

Ceir trosolwg o bob thema yn eu hadrannau priodol;

Un o’r diwygiadau i wasanaethau y mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe drwy’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w cyflawni fel y nodir ym Mhenawdau Telerau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw Cynllunio Trafnidiaeth. Mae trafnidiaeth yn helpu i lywio iechyd economaidd ac ansawdd bywyd ardal. Bydd y gwaith hwn, drwy gyfres o fuddsoddiadau mewn pobl a systemau, yn sicrhau bod digon o gapasiti i ddatblygu a chyflawni’r weledigaeth drafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth.
Gyda chydweithio rhanbarthol eisoes ar waith, mae angen sicrhau bod y rhanbarth yn gallu mynd i’r afael â heriau’r dyfodol, er enghraifft tagfeydd a lleihau allyriadau CO2. Mae angen i drafnidiaeth gyfrannu i leihau allyriadau CO2 ac mae lleihau dibyniaeth ar geir yn rhan allweddol o gyrraedd y targedau hyn. Bydd hyn yn galw am drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd gwell a mwy dibynadwy a gwell integreiddio rhwng y modelau.

Mae’r gwaith parhaus o baratoi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) gan Lywodraeth Cymru a’r potensial i baratoi a chyflwyno Cynllun Datblygu Strategol (CDY) ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru yn darparu fframwaith ar gyfer buddsoddiadau, twf a gwelliannau amgylcheddol ar draws y rhanbarth. Mae’r ymrwymiad ar lefel polisi cenedlaethol drwy’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy’n dod i’r amlwg yn darparu cefndir ar gyfer siâp cynllunio strategol ledled Cymru yn y dyfodol. Bydd cymhwyso hyn i’r rhanbarth wrth gydnabod a deall anghenion ei gymunedau unigol yn hanfodol i ddiogelu bywiogrwydd economaidd yr ardal ac ansawdd bywyd ei thrigolion a’i hymwelwyr.
Mae cydnabod iechyd, llesiant a chreu lleoedd fel cyfrannwr strategol yn ogystal â’r angen i greu lleoedd gwych i bobl fyw a gweithio ynddynt yn allweddol i hyn. Mae datblygu fframwaith strategol ar draws y rhanbarth gyda’r nod o alluogi darparu amgylcheddau iach o ansawdd uchel, sy’n ymgorffori dylunio o ansawdd uchel ac egwyddorion Seilwaith Gwyrdd a threfi a dinasoedd yn ganolog i gyflawni agenda flaengar sy’n cyflawni yn erbyn agendâu llesiant cenedlaethol a di-garbon.
Gyda chydweithrediadau rhanbarthol eisoes yn eu lle, mae angen ychwanegu at strategaethau a pholisïau presennol a'u cyfnerthu. Bydd ehangu'r ddealltwriaeth o'r manteision a'u rôl wrth ysgogi gwelliannau amgylcheddol yn hanfodol - gan gynnwys lleihau perygl llifogydd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau llygredd.
Mae gan gynllunio rhan ganolog wrth gyflawni’r amcanion cenedlaethol ar gyfer twf a datblygiad, ynghyd â hwyluso ac arwain darparu seilwaith allweddol yn genedlaethol ac ar draws Rhanbarth De-orllewin Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn amlinellu ac yn sefydlu’r sail ar gyfer gweithio rhanbarthol a’r newid i ddatblygu economaidd rhanbarthol. Penodwyd Prif Swyddogion Rhanbarthol a sefydlwyd timau rhanbarthol sydd ar hyn o bryd yn cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu Fframweithiau Economaidd a fydd yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnig sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig Rhanbarthol (CJCs) i ymdrin â meysydd fel datblygu economaidd, trafnidiaeth, cynllunio ac addysg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgelu ei dull ‘Canol Tref yn Gyntaf’ yn ddiweddar gyda chyllid adfywio i’w gefnogi.
Mae’r heriau datblygu economaidd y mae’r gwaith hwn yn ceisio mynd i’r afael â nhw yn heriau sydd hefyd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru yn ei strategaethau amrywiol. Nod EARTh yw rhannu dysgu ac arfer gorau wrth gyflawni'r rhain.
Mae Covid-19 wedi cael effaith aruthrol ar economi Cymru. Heb os, mae heriau enfawr, digynsail o’n blaenau. Fodd bynnag, mae’r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at gyfleoedd i ailadeiladu ein heconomi ac wedi dangos pwysigrwydd yr economi sylfaenol yn hyn o beth. Roedd Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru eisoes wedi pennu’r cyfeiriad ar gyfer yr economi sylfaenol ac o ran gwneud y cymunedau rydym yn byw ynddynt yn gryfach ac yn fwy gwydn.
Mae Mewnfuddsoddi, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol, brodorol yn Heriau Datblygu Economaidd allweddol yn y rhanbarth y bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio arnynt. Gall denu busnesau mawr, preifat gyfrannu'n sylweddol at gyflogaeth leol. Mae’n allweddol i dwf economaidd bod y rhanbarth yn edrych ar ffyrdd newydd, deinamig ac arloesol o ddenu mewnfuddsoddwyr yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n tyfu yma.

Mae tri o’r pedwar Awdurdod yn Rhanbarth De-orllewin Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac mae angen nodi ar fyrder atebion ymarferol sy’n dangos ymateb clir ac effeithiol i fynd i’r afael â’r her ranbarthol, genedlaethol a byd-eang hon. O ganlyniad, mae'r gwaith hwn yn ceisio nodi cyfleoedd i feithrin gallu a datblygu darpariaeth strategol ranbarthol gadarn i gyflawni ffyrdd o ddal, defnyddio a storio carbon; a lleihau allyriadau carbon ar draws y sector cyhoeddus a phreifat yn Ne-orllewin Cymru.
Mae Awdurdodau Lleol, Cyrff Cyhoeddus a busnesau ar draws y rhanbarth eisoes yn datblygu gwahanol ddulliau o fynd i’r afael â’r her a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau carbon erbyn 2050. Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yw un o’r ymatebion polisi gan Lywodraeth Cymru i bwysleisio pwysigrwydd mabwysiadu dulliau o ddal, defnyddio a storio carbon (CCUS). Mae angen nodi ateb rhanbarthol i ddatblygu a rhannu arfer da; ac osgoi dyblygu. Mae ymrwymiad ymhlith y pedair Sir i ddeall yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud yn Ne-orllewin Cymru, yng ngweddill Cymru ac mewn mannau eraill i fodloni'r her a datblygu ymateb effeithiol.

Bydd themâu Trawsbynciol y gwaith hwn yn dangos aliniad â’r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn sicrhau bod Cyfle Cyfartal, Datblygu Cynaliadwy a Threchu Tlodi yn cael eu hintegreiddio â’r themâu trawsbynciol ar gyfer Rhaglen Cronfeydd Strwythurol 2014-2020 yng Nghymru drwy gydol y broses o gyflawni’r rhaglen.

Y Dangosyddion Lefel Achos Themâu trawsbynciol ar gyfer y prosiect hwn yw:

  • Gweithgaredd cefnogi siaradwyr Cymraeg
  • Datblygu cadwyn gyflenwi gynaliadwy leol (ffrwd waith Adeiladu Cyfoeth Cymunedol o fewn y Thema Datblygu Economaidd)
  • Integreiddio Cymalau Cymdeithasol mewn gweithgaredd (ffrwd waith Adeiladu Cyfoeth Cymunedol o fewn y Thema Datblygu Economaidd)
  • Datblygu / ymgysylltu â hyrwyddwyr Themâu Trawsbynciol (o fewn pob thema, yn enwedig y cydlynwyr thema.)

Nid yw gweithio ar y cyd yn gysyniad newydd i'r rhanbarth. Bu gweithio rhanbarthol effeithiol ar draws partneriaeth eang dan arweiniad cyfarwyddwyr llywodraeth leol a swyddogion cymorth dros y degawd diwethaf i gyflawni a chydweithio ar amrywiaeth o fentrau adfywio ac i sicrhau bod yr adnoddau sy’n cael eu cyflwyno i’r rhanbarth yn cael yr effaith strategol fwyaf. Dros y cyfnod hwn mae'r Awdurdodau wedi ymateb i gyfleoedd buddsoddi mawr megis Cydgyfeirio'r UE a rhaglenni dilynol a chyfleoedd eraill gan Lywodraeth Cymru.
Nod y gwaith hwn yw adeiladu ar y gwaith presennol sydd ar y gweill gyda'r awdurdodau lleol ym mhob un o'r themâu uchod a'i gryfhau. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud ar ddulliau rhanbarthol cydweithredol o ddarparu rhai agweddau ar y gwasanaethau hyn, mae rhwystrau'n wynebu'r gwaith hwn. Mae cydweithrediadau ac arferion gwaith rhanbarthol yn aml ar sail ad-hoc pan fo adnoddau a chapasiti yn caniatáu hynny. Mae cyfyngiadau sefydliadol a chyllidebol yn aml yn atal datblygiad gweithio rhanbarthol. Mae diffyg gallu a gwybodaeth o fewn timau lleol ar faterion rhanbarthol a data ynghyd â chysur arferion gweithio traddodiadol oll wedi rhwystro cynnydd cyflym o ran gweithio rhanbarthol.
Bydd EARTh yn rhoi’r capasiti a’r adnoddau staffio sydd eu hangen ar y rhanbarth i gydlynu a ffurfioli’r dulliau gweithredu sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws y rhanbarth ym mhob un o’r themâu. Bydd yn dod â gwaith lleol presennol ynghyd i osgoi dyblygu gweithgaredd o fewn y rhanbarth. Bydd yn edrych ar fodelau llwyddiannus trawsffiniol a ffyrdd newydd arloesol o weithio sy’n herio arferion gwaith traddodiadol presennol. Bydd yn galluogi’r rhanbarth i lywio a threialu dulliau arloesol newydd i fynd i’r afael â heriau rhanbarthol ym mhob un o’r themâu a darparu’r adnoddau sydd eu hangen i fuddsoddi yn y gweithluoedd presennol ym mhob un o’r Awdurdodau Lleol, i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosesau newydd a darparu gwasanaethau i fynd i'r afael â heriau rhanbarthol.

Bydd EARTh yn cynorthwyo’r pedwar Awdurdod Lleol yn y Rhanbarth i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth o fewn y gweithlu presennol i’w galluogi i weithio’n rhanbarthol ac ar y cyd er mwyn darparu gwasanaethau allweddol i fynd i’r afael â heriau sy’n wynebu’r rhanbarth.
Bydd y gwaith yn cyflawni'r Dangosyddion Allbwn canlynol o dan ESF Gorllewin Cymru a P5 AS1 y Cymoedd: Cydweithio ac arloesi wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

Allbwn Nifer y prosiectau sy'n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, rhanbarthol neu leol 1
Allbwn Nifer y dulliau, prosesau ac offer sy'n cael eu datblygu gyda chymorth 2
Allbwn Nifer yr endidau sy'n cymryd rhan mewn prosiectau sy'n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol 4
Canlyniad Nifer y dulliau, gweithdrefnau ac offer newydd a ddatblygwyd ac a ddosbarthwyd 2

Caiff y gwaith ei leoli o fewn Is-adran Datblygu Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae gan yr is-adran hanes llwyddiannus o gyflawni gwaith llwyddiannus a ariennir gan Ewrop yn Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth.

I sicrhau bod y gwaith yn cael ei lywodraethu'n gadarn, mae Grŵp Llywio Rhanbarthol wedi'i sefydlu a fydd yn monitro perfformiad y prosiect, yn rhoi cyfeiriad strategol iddo ac yn sicrhau ei fod yn bodloni ei gylch gwaith.

Mae cynaliadwyedd hirdymor yn allweddol i weithrediad EARTh. Bydd y capasiti, sy'n rhwystro gwaith rhanbarthol rhag mynd rhagddo ar hyn o bryd, yn cael ei adeiladu. Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar feithrin gallu'r gweithlu presennol i gyflawni swyddogaethau allweddol ar lefel ranbarthol. Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi'u sefydlu i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â Chynllunio Datblygu Strategol a Chynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol; byddan nhw hefyd yn cael pŵer i wneud pethau i hybu neu wella llesiant economaidd yn eu hardaloedd. Mae’r rhain yn feysydd lle mae consensws bod gweithio ar y raddfa hon yn gwneud synnwyr – gan alinio dulliau datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir i ddatblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf lleol. Mae ffocws a themâu’r gwaith hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â rhai’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac felly rhagwelir y bydd y gwaith hwn yn ategu ac yn integreiddio’n ddi-dor â gwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig wrth iddynt ddatblygu.