Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu

1. Cyflwyniad

Mae Tyisha yn trawsnewid ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn barod i gymryd y cam nesaf i ddod o hyd i ddarpar bartner i ymuno â ni ar ein taith uchelgeisiol i drawsnewid yr ardal.

Cynhaliwyd proses Ymgysylltu’n Gynnar â'r Farchnad yn 2022, ac wedyn cyhoeddwyd Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn hydref 2023 a oedd yn gwahodd partneriaid i fynegi eu diddordeb mewn datblygiadau yn y dyfodol.

Ein nod yw newid Tyisha drwy ddefnyddio dull fesul cam. Dechreuodd hyn drwy ddymchwel hen dai yn 2022 a phrynu eiddo a thir i ychwanegu at bortffolio'r datblygwr yn y dyfodol. Rydym bellach am gymryd y camau nesaf i adeiladu cartrefi newydd sbon ar gyfer pobl leol a fydd yn rhoi cyfleoedd i'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf, teuluoedd a'r rhai sydd angen tai cymdeithasol. Byddwn hefyd yn gwella'r ardal drwy ddarparu mwy o fannau gwyrdd a gwella'r amgylchedd.

Ochr yn ochr â'r gwelliannau ffisegol hyn, byddwn hefyd yn dwysáu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd, darpariaeth datblygu sgiliau a gwaith allgymorth fel y gallwn weithio gyda'r gymuned leol yn Nhyisha i ddiwallu eu hanghenion a'u dyheadau gan wneud yr ardal yn lle llewyrchus i fyw.

Mae hyn yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Cyngor Sir Caerfyrddin i adfywio ward Tyisha ac ardal ehangach canol tref Llanelli sy'n derbyn buddsoddiad enfawr.
Mae preswylwyr wedi rhoi eu barn ac wedi dweud wrthym eu bod eisiau: gwell darpariaeth tai, mwy o gyfleoedd gwaith, amgylchedd glanach a lle mwy diogel i fyw.

 


Y Weledigaeth

Cyflwyno tai newydd o wahanol ddeiliadaethau, datblygiadau newydd defnydd cymysg, mwy o gyfleusterau cymunedol a gwell amodau amgylcheddol. Bydd hyn yn ei dro o gymorth i wella proffil cymdeithasol ac economaidd yr ardal ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.