Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Mae Llanelli yn newid
- 3. Trawsnewid Tyisha
- 4. Gweithio mewn partneriaeth
- 5. Cynnydd hyd yn hyn
4. Gweithio mewn partneriaeth
Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol ymlaen o ran ein huchelgeisiau i wella dyfodol Tyisha drwy weithio mewn partneriaeth â chyflwyno ffrydiau gwaith i fynd i'r afael â materion allweddol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad gan dimau Cynllunio, Adfywio ac Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a sefydliadau eraill.
Rydym wedi dechrau ar ein cynlluniau i drawsnewid Tyisha drwy gydweithio i gyflawni'r canlynol:
- Ffurfio tîm ymroddedig, sy'n cynnwys swyddogion arbenigol i gyflawni prosiectau, ymgysylltu a gorfodi
- Mynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy weithio ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys a chyflwyno cynllun gweithredu plismona lleol newydd cadarn
- Gwella'r amgylchedd gan gynnwys mynd i'r afael â materion gwastraff a thipio anghyfreithlon a chynnig cymorth ac addysg ar ailgylchu
- Gwella llif traffig, cysylltiadau a llwybrau beicio i roi opsiynau i’r gymuned gyrraedd gwasanaethau a chyflogaeth yn ogystal â hyrwyddo defnydd hamdden
- Gwella rheolaeth a safonau llety rhentu preifat a mynd i'r afael ag eiddo gwag/adfeiliedig
- Helpu preswylwyr i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a hyfforddiant
- Gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar fodel cymdeithasol newydd o iechyd a fydd yn anelu at wella llesiant, bwyta'n iach ac ymarfer corff a darparu gwasanaethau allgymorth i'r ward