Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Mae Llanelli yn newid
- 3. Trawsnewid Tyisha
- 4. Gweithio mewn partneriaeth
- 5. Cynnydd hyd yn hyn
2. Mae Llanelli yn newid
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Llanelli fel lle gwych i fyw a gweithio. Mae adfywio Tyisha yn ganolog i hyn oherwydd ei leoliad; gan ddarparu cyswllt pwysig rhwng canol y dref a phrosiect Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd.
Drwy fuddsoddi'n helaeth yng nghanol tref Llanelli, rydym am ei wneud yn rhywle lle mae pobl eisiau byw a gweithio drwy ddefnyddio siopau gwag unwaith eto a chreu cartrefi newydd.
Bydd datblygiad nodedig Pentre Awel yn rhoi Llanelli ar y map gan ddwyn ynghyd fusnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern mewn un lleoliad gwych ar hyd yr arfordir.
Mae gwelliannau i'r ardal hefyd yn cynnwys adfywio Sied Nwyddau Llanelli, cyflwyno llwybrau beicio newydd, gwella'r amgylchedd a chynyddu hygyrchedd gorsaf reilffordd Llanelli. Bydd y prosiectau hyn yn helpu i greu naws am le, yn gwneud y gorau o dreftadaeth Llanelli ac yn gwella'r cysylltedd â chanol y dref, Pentre Awel, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a Thyisha.
Mae'r datblygiadau helaeth hyn yn ganolog i sicrhau dyfodol Llanelli. Mae'r ardal yn elwa ar gysylltiadau strategol o ran ffyrdd a rheilffyrdd, ac mae gorsaf reilffordd Llanelli a ffordd gyswllt yr arfordir yn gwasanaethu'r ardal ar ochr ddeheuol safle'r datblygiad. Mae'r ffordd gyswllt yn rhoi mynediad i'r M4 drwy'r A4138 neu'r A484.
Mae ysgol gynradd o'r radd flaenaf, sef Ysgol Pen Rhos, hefyd wedi cael ei datblygu i gymryd lle'r hen Ysgol Maesllyn ac Ysgol Copperworks. Rydym am adeiladu ar yr ymrwymiad hwn i weithio gyda'r gymuned i wella Heol yr Orsaf a'r ardal gyfagos. Mae’r gwaith hwn yn rhan allweddol o'n strategaeth i sicrhau dyfodol bywiog i'r dref.