Pentre Awel
Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru a fydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd gan gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.
Yn ogystal â gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.
Bydd y cyfan o fewn y dirwedd naturiol, o amgylch llyn dŵr croyw ac o fewn pellter cerdded i Barc Arfordirol y Mileniwm. Bydd Pentre Awel yn cynnwys mannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, gyda llwybrau cerdded a beicio a golygfeydd arfordirol trawiadol.
Ar safle 83 erw yn y Llynnoedd Delta, bydd y prosiect dan arweiniad y Cyngor yn cael ei ddatblygu fesul cam ar draws pedwar parth.