Gweithio gyda ni
Gan fod gwaith adeiladu bellach wedi'i ddechrau ar Barth 1, mae nifer o gyfleoedd i fusnesau a chyflenwyr lleol weithio ar y datblygiad. Yn benodol:
- Bydd chwe phecyn gwaith yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru yn ystod y cyfnod adeiladu
- Mae dros 20 o becynnau gwaith lle gall isgontractwyr penodedig geisio ategu eu gweithlu a/neu eu cadwyn gyflenwi yn lleol. Bydd Bouygues yn cynnal digwyddiadau Cwrdd â'r Isgontractwr ar y safle i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer crefftau perthnasol. Os hoffech fynegi diddordeb mewn cwrdd ag unrhyw isgontractwr i drafod y cyfle, cysylltwch â Chyfarwyddwr Prosiect Bouygues, peter.sharpe@bouygues-uk.com.
- I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o becynnau gwaith sydd ar gael, ewch i dudalen prosiect Pentre Awel ar GwerthwchiGymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu lleoliad ar gyfer eich busnes ym Mhentre Awel, cofrestrwch eich manylion a byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn yn gallu rhannu rhagor o wybodaeth.