Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-orllewin Cymru (RET)

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/08/2023

Mae pedwar Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol wedi'u sefydlu ledled Cymru i helpu i sicrhau bod cynigion cyllid yr UE yn bodloni cyfleoedd a buddsoddiadau presennol ac yn y dyfodol ar lefel ranbarthol – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.

Mae Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-orllewin Cymru (RET) yma i sicrhau bod rhanbarth De-orllewin Cymru yn cael y budd mwyaf o gyllid yr UE.

Os ydych yn ystyried gwneud cais am gyllid gan yr UE neu eich bod eisoes yn gweithredu prosiect gan yr UE, mae croeso ichi gysylltu â ni i gael arweiniad am y modd y gallai eich prosiect gefnogi blaenoriaethau rhanbarthol, gwneud cysylltiadau â phrosiectau eraill ac elwa ar astudiaethau achos ac esiamplau o arferion gorau.

Rydym yn gweithio ar draws pob sector i sicrhau bod buddsoddiadau a ariennir gan yr UE yn denu cyfranogiad effeithiol a'u bod yn llwyddiannus – gan ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau presennol/arfaethedig yng nghyd-destun gweithgareddau a chyfleoedd rhanbarthol a thematig, gan gynnwys rhai sefydledig a rhai sy'n dod i'r amlwg.  Rydym yn cyflawni hyn drwy'r amcanion a'r camau gweithredu canlynol:

Camau gweithredu’r yn gynnwys:

  • Caffael gwybodaeth am flaenoriaethau/trafodaethau rhanbarthol gan weithgorau rhanbarthol
  • Rhwydweithio ac Ymgysylltu

Camau gweithredu’r yn gynnwys:

  • Cefnogi strwythurau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau consensws o ran gweithgarwch arfaethedig (blaenoriaethu)

Camau gweithredu’r yn gynnwys:

  • Sicrhau ystyriaeth a chyfranogiad rhanbarthol mewn prosiectau strategol cenedlaethol (gweithgareddau ychwanegol, yr effaith ar gyflenwad/galw am sgiliau, sicrhau ymgysylltiad traws-sector, cysondeb ag uchelgeisiau strategol, sicrhau integreiddio a dim dyblygu)
  • Adrodd ac ymgysylltu yn rheolaidd â WEFO
  • Hwyluso’r adolygiad rheolaidd o’r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd (EPF)

Camau gweithredu’r yn gynnwys:

  • Mapio gweithgarwch parhaus (a gymeradwywyd, sy’n datblygu ac sy’n dod i’r amlwg) ar draws pob ffrwd ariannu yn y rhanbarth
  • Hyrwyddo rhwydweithio ymhlith prosiectau/cysylltiadau trwy ymgysylltu a digwyddiadau

Hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau prosiectau trwy:

  • Gylchlythyrau rheolaidd
  • Datganiadau i’r Wasg
  • Digwyddiadau a Gweithdai lledaenu

Camau gweithredu’r yn gynnwys:

  • Monitro ac asesu effaith a chwmpas gweithgarwch a ariennir gan Ewrop yn y rhanbarth trwy gyswllt rheolaidd â WEFO, cyllidwyr eraill, a chyda Buddiolwyr Arweiniol er mwyn casglu gwybodaeth yn gywir i lywio adroddiadau rheolaidd.

Camau gweithredu’r yn gynnwys:

  • Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn cefnogi/wedi eu hintegreiddio ar draws Byrddau Dinas-Ranbarthau (Rhanbarthau Bae Abertawe a Dinas Caerdydd), Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.