Parth 1

Parth 1

Dyddiad cwblhau'n llawn ar gyfer hydref 2024:

Canolfan hamdden

Bydd Pentre Awel yn darparu canolfan hamdden newydd o'r radd flaenaf, a fydd yn cynnwys:

  • Pwll nofio wyth lôn 25 metr a phwll dysgwyr sy'n cynnig nofio lôn traddodiadol a dosbarthiadau dysgu nofio, yn ogystal â gweithgareddau hwyliog gyda sleidiau dŵr, offer gwynt a chyrsiau rhwystrau dŵr i bobl o bob oed a gallu
  • Neuadd chwaraeon wyth cwrt yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon dan do, gan gynnwys cyrtiau pêl-rwyd o safon cystadlu
  • Campfa arloesol
  • Stiwdios dawnsio, chwilbedlo ac amlbwrpas
  • Pwll hydrotherapi wedi'i ariannu gan roddion elusennol ac sydd ar gael i'w defnyddio gan gleifion y GIG

Addysg, ymchwil a datblygu busnes

  • Bydd yr ymchwil a'r gwaith datblygu yn helpu i wella dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw'n dda. Bydd Pentre Awel yn gartref i dimau o wyddonwyr a busnesau newydd, busnesau sydd wedi'u hen sefydlu a phobl sy'n newydd i'r maes. Byddant i gyd yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau a'r bwrdd iechyd i wella bywyd.
  • Bydd canolfan darpariaeth glinigol ac ymchwil yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ehangu ei ddarpariaeth ymchwil a pheirianneg feddygol drwy ganolbwyntio ar dreialon clinigol ar lefel gymunedol, sy'n gysylltiedig â chyfleusterau ar y safle; ac yn darparu gofal amlddisgyblaethol yn nes at adref ar gyfer ystod eang o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
  • Bydd canolfan addysg a hyfforddiant yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, gyda chyrsiau'n amrywio o lefel mynediad i ôl-raddedig, gan roi myfyrwyr mewn lleoliad clinigol a chanolbwyntio ar feysydd lle mae prinder sgiliau.

Dylunio, pensaernïaeth a chynaliadwyedd

Mae gwaith dylunio manwl wedi'i wneud ar Barth 1, a fydd yn dwyn ynghyd addysg, busnes, ymchwil, hamdden ac iechyd mewn un adeilad. Bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu huno mewn cynllun 'stryd', a gysylltir gan atriwm canolog a fydd yn cynnwys derbynfa, caffi ac amwynderau cyhoeddus eraill. Y stryd fydd calon gymunedol y pentref a bydd ganddi lawer o fannau arddangos tuag at mannau bach a fydd yn galluogi pobl i fwynhau'r golygfeydd gwych o'r llyn ac i'r gorllewin tuag at aber Afon Llwchwr a Bae Caerfyrddin.

Mae'r dyluniadau'n arddangos uchelgais y Cyngor i greu datblygiad sy'n cael ei arwain gan y dirwedd, sy'n gysylltiedig â chymunedau ac amwynderau lleol ac sy'n gynaliadwy. Bydd cyfleusterau Parth 1 yn gwneud y defnydd gorau posibl o olau dydd ac awyru naturiol lle bo hynny'n bosibl, ac yn 'dod â'r tu allan i mewn' i hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol da. Yn ogystal, mae toeau gwyrdd/brown a phaneli ffotofoltäig yn rhan bwysig o strategaeth ynni ar draws y safle ac yn adlewyrchu dyheadau'r Cyngor mewn perthynas â charbon sero-net.

  • Golygfa o'r awyr o'r Gogledd-Orllewin

  • Golygfa o'r awyr o'r Gogledd

  • Golygfa o'r Awyr o'r De-Orllewin

  • Golygfa o'r Awyr o'r De

  • Gweld y Safle Llawn o'r Awyr

  • Golygfa o'r Gogledd Ddwyrain

  • Golygfa o'r De

  • Golygfa o Fynedfa'r Gogledd

  • Golygfa o Fynedfa'r De

  • Enscape

  • Enscape 2