Cronfa Codi'r Gwastad

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/01/2024

Mae Sir Gaerfyrddin wedi sicrhau dros £36miliwn o Gronfa Codi'r Gwastad newydd Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn dau brosiect mawr yn y sir.

Yn dilyn cyhoeddiad gan y Canghellor yng Nghyllideb yr Hydref 2021, mae £4.8biliwn  o Gronfa Codi'r Gwastad yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith i wella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Dyfarnwyd dros £120miliwn i ariannu 10 prosiect ledled Cymru, gan gynnwys dau yn Sir Gaerfyrddin.

 

Hwb Caerfyrddin a Hwb Penfro

Sicrhawyd £19.9miliwn i greu dau hwb yng nghanol y dref - un yn Sir Gaerfyrddin ac un yn Sir Benfro - er budd pobl leol a busnesau ac i greu cymysgedd mwy amrywiol a chynaliadwy o ran defnydd ar gyfer canol trefi.

Bydd prosiect Hwb Caerfyrddin yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â phrosiect Hwb tebyg yng Nghei'r De, ym Mhenfro, a oedd yn rhan o'r cais i'r Gronfa Codi'r Gwastad.

Nod y ddau brosiect yw dod ag iechyd a llesiant i ganol trefi y siroedd cyfagos, gan gynnig gwasanaeth cyhoeddus cynhwysol sy'n diwallu anghenion lleol newidiol ac sy'n helpu i ysgogi gweithgarwch, nifer yr ymwelwyr a budd amgylcheddol.

 

Llwybr Dyffryn Tywi

Mae £16.7miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gyflawni camau pellach o Lwybr Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y prosiect yn creu llwybr cerdded a beicio 20km oddi ar y ffordd sy'n cysylltu Caerfyrddin â Llandeilo ar lan yr Afon Tywi.

Nod prosiect Llwybr Dyffryn Tywi yw denu ymwelwyr o bob rhan o'r DU a thu hwnt gyda'r potensial i gynhyrchu tua £4.5 miliwn y flwyddyn i'r economi leol, gan greu swyddi mewn busnesau lleol drwy nifer uwch o ymwelwyr a gwariant.

Mae rhai rhannau o'r llwybr eisoes wedi'u cwblhau, gan gynnwys cyswllt rhwng Abergwili a Felin-wen