Gweithio gyda Chymunedau Lleol
Gellir olrhain ymgysylltu cymunedol ar brosiect Pentre Awel yn ôl i 2017, yn ystod y cam cynllunio o ran yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC), pan roedd arddangosfa gyhoeddus yng Nghlwb Cymdeithasol y Morfa i arddangos cynigion am y tro cyntaf ar gyfer Pentre Awel wedi denu 240 o bobl.
Ers hynny, mae'r Awdurdod wedi parhau i ryngweithio â grwpiau cymunedol, rhanddeiliaid a'r trydydd sector i greu datblygiad cynhwysol a chroesawgar. Er enghraifft, ymgysylltu â Chynghrair Anabledd Sir Gaerfyrddin yn ystod datblygu'r dyluniad ar gyfer Parth 1 i ystyried hygyrchedd.