Gweithio gyda Phobl Leol
Recriwtio a Hyfforddi wedi'u Targedu
Yn ystod cam adeiladu Parth 1, bydd nifer sylweddol o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn cwmpasu ystod helaeth o grefftau adeiladu, er enghraifft gwaith tir, codi ffrâm ddur, gwaith mecanyddol a thrydanol a gwaith coed, i enwi dim ond rhai.
O fewn ei strategaeth o ran budd i'r gymuned ar gyfer y prosiect, mae Bouygues wedi ymrwymo i ddarparu 4,680 o wythnosau person o recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedu sy'n fwy na meincnod Llywodraeth Cymru o 52 o wythnosau person i bob £1m o wariant.