Gweithio gyda'r Gymraeg
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ym Mhentre Awel.
Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn ystod camau cynnar y prosiect yn manylu ar sut y gallai Pentre Awel gael effaith gymdeithasol, economaidd a diwylliannol ar yr iaith Gymraeg.
Arweiniodd hyn at Gynllun Gweithredu'r Iaith Gymraeg sy'n ystyried sut y gall Pentre Awel gefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru, sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg a Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg y Cyngor gan wneud y canlynol:
(i) cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg;
(ii) cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg; a
(iii) chreu amodau ffafriol i'r Gymraeg