Gweithio gydag Ysgolion
Nod Pentre Awel yw creu datblygiad y bydd y bobl, y cymunedau a'r busnesau lleol yn elwa arno am flynyddoedd i ddod. Mae hyn wedi dechrau o ddifrif yn ystod y cyfnod adeiladu gan fod ysgolion cynradd ac uwchradd yn Llanelli wedi cymryd rhan uniongyrchol yn y prosiect.
- Yn ystod y cam cyn-adeiladu, bu Bouygues yn rhyngweithio â thros 1000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn cyflwyno dros 30 awr o weithgareddau i ysgolion. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaethau ysgol, sgyrsiau am yrfaoedd a her Tetrahedron sy'n canolbwyntio ar STEM a gynlluniwyd i brofi ac i weithio ar ddatrys problemau, gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu.
- Cymerodd tua 350 o ddisgyblion ran yn Believe Academy Bouygues
- Mae dros 80 o ddisgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cael eu recriwtio fel Llysgenhadon Myfyrwyr Adeiladu
Mae Pentre Awel hefyd wedi hwyluso prosiectau ym meysydd addysg, ymchwil ac ymgysylltu gydag ysgolion lleol.