Gweithio'n Gynaliadwy
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2023
Yn unol â dyheadau'r Cyngor, mae Parth 1 Pentre Awel wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan ystyried cynaliadwyedd a'i effaith bosibl ar yr amgylchedd. Bydd Parth 1 yn manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd ac yn lleihau allyriadau carbon a'r defnydd o ynni trwy:
- Dull ffabrig yn gyntaf
- Hyrwyddo golau dydd naturiol ac awyru
- Defnyddio pympiau gwres o'r awyr
- Dros 850 o baneli solar wedi'u gosod ar do adeilad Parth 1
- To brown/gwyrdd bioamrywiol
- Achrediad ardderchog BREEAM
- Seilwaith gwefru cerbydau trydan
- Teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus gyda'r bwriad o leihau teithiau gan gerbydau i'r safle
- Bydd Parth 1 yn ymestyn Hawl Tramwy Cyhoeddus o'r gorllewin i'r dwyrain sy'n cysylltu'r Morfa â Pharc Arfordir y Mileniwm
- Dulliau cynaliadwy o adeiladu gan Bouygues UK, sef contractwr Parth 1, gan gynnwys defnyddio Olew Llysiau wedi’i drin â Hydrogen (HVO) ar gyfer peiriannau, swyddfeydd a chabanau safle wedi'u pweru gan baneli solar ac ailgylchu deunyddiau/pridd a gloddiwyd i leihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae Bouygues wedi ymrwymo i ddargyfeirio 98% o wastraff o safleoedd tirlenwi.
Datblygu a Buddsoddiad
Mwy ynghylch Busnes