Llain o dir, oddeutu 1.55 erw
Parc Pendre, Cydweli, Sir Gaerfyrddin

Offers in region of £160,000

Manylion Allweddol

Mae'r tir ym mhentref Cydweli ac yn gyfleus i'r cyfleusterau lleol, gan gynnwys Swyddfa'r Post, fferfyllydd, siopau, garej, tafarndai ac ysgol gynradd.

  • Arwynebedd y safle: oddeutu 1.55 erw
  • Caniatâd Cynllunio amlinellol ar gyfer 16 o unedau preswyl. Cyfeirnod Cynllunio: S/30578
  • Rhydd-ddeiliadaeth â meddiant gwag.

Mae Caerfyrddin oddeutu 10 milltir i ffwrdd, ac mae 8 milltir o dref brysur Llanelli. *Mae'n agos i gae rasio Ffos Las, Parc Gwledig Pen-bre a thraeth euraidd, hardd Cefn Sidan. Mae Cross Hands, sy'n prysur ddatblygu'n ganolfan, oddeutu 13 millyir i ffwrdd ac yno ceir cyswllt â ffordd ddeuol yr A48, a chysylltiadau da ar hyd y ffyrdd â threfi Rhydaman, Llandeilo, Caerfyrddin, Llanelli a dinas Abertawe hefyd ar yr M4.

Cytundeb Adran 106

Bydd cytundeb cyfreithiol yn ofynnol cyn cyflwyno'r materion a gadwyd er mwyn sicrhau cyfraniad o £31,808 tuag at fan agored a £12,000 tuag at addysg, sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn gwasanaethu'r datblygiad.