Cau Busnes Bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/01/2025
Newid amgylchiadau
Rhaid i chi ddweud wrthym os byddwch yn penderfynu cau eich busnes bwyd.
Mae hyn yn cynnwys:
- Os byddwch yn rhoi'r gorau i werthu bwyd
- Os byddwch yn rhoi'r gorau i fasnachu
Cau safle / ddim yn gwerthu bwyd mwyach
Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i’r adran drwy anfon neges e-bost i:
diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys:
- Enw Masnachu
- Cyfeiriad Llawn
- Perchennog busnes bwyd
- Dyddiad rydych yn bwriadu rhoi'r gorau i fasnachu
Sylwch ei bod yn drosedd darparu gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir yn enwedig pan fo safle wedi’i ddatgan ar gau ond mae’n parhau i fasnachu.