Datblygiad Systemau Bwyd
Prosiect Ymgeisydd: Cyngor Sir Gâr
Teitl y Prosiect: Datblygu Systemau Bwyd
Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Mae'r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn fenter drawsnewidiol sydd ar y gweill i helpu i ddatblygu system fwyd leol ffyniannus, gynaliadwy a chynhwysol yn Sir Gaerfyrddin. Drwy bartneriaeth fwyd ddeinamig y sir, sef Bwyd Sir Gâr, nod y prosiect yw mynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mewn cydweithrediad â phartneriaid cyflenwi allweddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Synnwyr Bwyd Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain y prosiect i wella'r economi fwyd leol, hyrwyddo iechyd a llesiant, a chyfrannu at adferiad natur a gwytnwch yn yr hinsawdd. Mae tri llinyn o gyflawni prosiectau sy'n cynnwys; Cymunedau Cysylltiedig a Mynediad Cymunedol at Fwyd Iach, Rheoli Tir Strategol ar gyfer Nwyddau Cyhoeddus ac Adeiladu Mudiad Bwyd Da.
Gan adeiladu ar ei waith presennol, nod Prosiect Datblygu System Bwyd - Bwyd Sir Gâr yw gwella'r system fwyd leol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae effaith Bwyd Sir Gâr Food yn ymestyn ar draws y sir ac mae prosiectau a mentrau diweddar wedi cynnwys:
- Gweithredu rhaglen beilot sy'n archwilio caffael cyhoeddus lleol a chynaliadw
- Datblygu prosiect cymunedol drwy Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
- Datblygu prosiect Prydau Ysgol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
- Gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy brosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion
- Gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i helpu i lunio Strategaeth Fwyd ar gyfer y Bwrdd mGwasanaethau Cyhoeddus
- Bod yn rhan o Gylch Peiriannau a ddatblygwyd ac a ddarperir gan Social Farms & Gardens a fydd yn galluogi tyfwyr ar raddfa fach i fenthyg peiriannau i'w defnyddio ar eu tir yn Sir Gaerfyrddin