Sgiliau 24

Prosiect Ymgeisydd: Coleg Sir Gâr 

Teitl y Prosiect: Sgiliau 24

Blaenoriaeth Buddsoddi: Pobl & Sgiliau

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Bydd Skills24 yn darparu o dan dri philer/maes i hybu hyfforddiant sgiliau yn Sir Gaerfyrddin – Cook24, Care24, a Green24.

Gan adeiladu ar brosiect llwyddiannus y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, nod Cook24 yw ymgysylltu ag arbenigwyr yn y sector a diwydiant i ailsgilio/gwella sgiliau'r gweithlu yn y sector lletygarwch a darparu sgiliau allweddol ar gyfer cael gwaith ym maes lletygarwch. Bydd cyrsiau hyfforddi megis cyrsiau hylendid bwyd yn cael eu cynnal ochr yn ochr ag addysg i ddisgyblion a rhieni/gofalwyr ynghylch coginio gyda chynnyrch cartref, banciau bwyd a bwyta’n iach.

Bydd Care24 yn canolbwyntio ar gefnogi'r rhai sydd am ddechrau gyrfa newydd mewn gofal neu'r rhai sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â rolau answyddogol yn y sector gofal. Gyda’r diben o ddatblygu ar gyfer cyflogaeth, bydd yr hyfforddiant a ddarperir gan Care24 yn arwain at hyfforddiant penodol i’r sector mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gan ymgysylltu â’r gymuned leol i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r trydydd piler yn cyflwyno Green24 a fydd yn arwain strategaethau sero net yn Sir Gaerfyrddin – gan deilwra hyfforddiant ar gynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth sero net ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae Green24 wedi datblygu cyfres o gynhyrchion hyfforddi i ddarparu cymorth o ran y diffyg sgiliau sydd o fewn sectorau amrywiol – gan gynnwys hyfforddiant mewn cynaliadwyedd bwyd yn y sector amaethyddol.

Bydd y tri piler yn ymgorffori sgiliau digidol yn eu rhaglenni hyfforddi ac yn cyflwyno ‘Academi Microsoft’ a fydd yn cynnig hyfforddiant ar dechnoleg i baratoi unigolion ar gyfer cyflogaeth.