Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol
Prosiect Ymgeisydd: Prifysgol Abertawe
Teitl y Prosiect: Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol
Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Mae ARCS yn rhaglen cymorth Arloesi Cylchol a ddarperir gan Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe. Ar agor i sefydliadau ar draws De-orllewin Cymru, mae wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae ar waith tan fis Rhagfyr 2024.
Gan weithio ar sail prosiectau penodol, mae'r gefnogaeth a ddarperir wedi'i theilwra i faint, sector, gwybodaeth ac uchelgeisiau Economi Gylchol eich sefydliad. Mae amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys:
• Mapiau Ffordd / Cynlluniau Gweithredu Economi Gylchol
• Adolygiadau Llenyddiaeth a Dadansoddiad o'r Farchnad
• Dulliau Ymchwilio i Gwsmeriaid
• Cymorth i Lunio Cynnig
• Asesiadau Dylunio Cylchol
• Astudiaethau Dichonoldeb â Chymorth
• Ymyriadau Newid Ymddygiad
• Prototeipio Model Busnes Cylchol
• Mapio Systemau / Ecosystemau
• Meini Prawf Caffael / Cadwyn Gyflenwi Gylchol
• Dadansoddiad Llif Deunyddiau
• Asesiad Cylch Oes Cynnyrch
Felly, p'un a ydych newydd ddechrau arni neu'n chwilio am gymorth ar brosiect Economi Gylchol presennol, cysylltwch â ni i weld sut y gall ARCS eich cefnogi i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.