Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

2. Ar beth yr ydym ni'n gwario ein harian?

Rydym yn gwario dros £376 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar amrywiaeth eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith a ddarperir gan fusnesau o bob sector a maint, gydag ystod o gyfleoedd masnachol yn cynnwys Busnesau Bach a Chanolig, Sefydliadau'r Trydydd Sector, Grwpiau Lleiafrifol a Grwpiau Ffydd.

Rydym yn defnyddio dull Rheoli Categori wrth gaffael, sy'n golygu bod modd categoreiddio'r gwariant trwy grwpio ynghyd gynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig ar draws y Cyngor, a'u mapio yn ôl marchnadoedd cyflenwi perthnasol. Trwy ganolbwyntio ar ein gwariant mewn categorïau penodol gallwn herio'r hyn rydym yn ei brynu a sut rydym yn ei brynu, i sicrhau grym prynu a gwerth hyd yr eithaf.

Yn ystod 2023/2024, gwariwyd cyfanswm £376 miliwn ar draws ein 11 is-gategori.

  • Gofal Cymdeithasol i Oedolion: 27.52%
  • Adeiladu: 22.03%
  • Gwasanaethau Proffesiynol ac Ymgynghori: 8.46%
  • Trafnidiaeth: 8.16%
  • Rheoli Cyfleusterau: 7.28%
  • Corfforaethol: 7.10%
  • Cynnal a Chadw Adeiladau: 5.21%
  • Priffyrdd a Pharciau: 4.85%
  • Gwastraff: 3.79%
  • TGCH: 2.99%
  • Gofal Cymdeithasol i Blant: 2.61%