Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro
Yn yr adran hon
10. Digwyddiadau Ymgysylltu â Chyflenwyr
Rydym yn gweithio ar y cyd â Busnes Cymru a sefydliadau eraill i roi gwybodaeth i gyflenwyr am gyfleoedd i gael contract a'r broses dendro. Gallwn hefyd ddarparu cyfle i gyflenwyr gwrdd â phrif gontractwyr i gael gwybod am gyfleoedd posibl i ymuno â'r gadwyn gyflenwi/is-gontractio.
Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys:
- Ymgysylltu â'r Farchnad yn Gynnar
- Sesiynau Cyfarwyddyd Penodol ar gyfer Tendro
- Cwrdd â'r Prynwr
- Gweithdai a Gweminarau Sut i Dendro
- Gweithdai a Gweminarau GwerthwchiGymru
- Gweithdai a Gweminarau tendro byw.
Ar hyn o bryd, digwyddiadau rhithwir fydd y rhain, a chânt eu hysbysebu ar wefan Busnes Cymru a gwefan GwerthwchiGymru.