Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

3. Ble a gyda phwy mae ein harian yn cael ei wario?

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu'r economi leol a chefnogi cyflenwyr lleol. Ni allwn ffafrio cyflenwyr lleol oherwydd deddfwriaeth gaffael ond rydym yn annog sefydliadau lleol i wneud cynnig am gontractau gyda ni. Mae contractau'n seiliedig ar y meini prawf gwerthuso a nodir yn y gwahoddiad i dendro.

Yn ystod y cyfnod o Fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024, gwnaethom wario:

  • 62% ar Fusnesau Bach a Chanolig
  • 44% ar Gyflenwyr Lleol
  • 69% ar Gyflenwyr Cymreig