Budd i'r gymuned

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/08/2023

Rydym wedi ymrwymo i hybu Datblygu Cynaliadwy drwy ein polisïau, ein strategaethau a'n gwasanaethau.  Y nod yw adeiladu cymunedau cryfach, lleihau allgáu cymdeithasol a thlodi a hybu datblygiad yr economi. Sicrhau bod materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach yn cael eu hystyried wrth dendro am gontractau adeiladu, gwasanaethau neu cyflenwi yw'r nod wrth gynnwys Budd i’r Gymuned yn y broses gaffael sector cyhoeddus. Bydd hyn o gymorth i gael yr effaith fwyaf o ran gwariant cyhoeddus, ac felly’n sicrhau'r gwerth gorau am arian yn yr ystyr ehangaf.

Weithiau gelwir Manteision Cymunedol yn Gymalau Cymdeithasol neu'n Ofynion Cymdeithasol, maent yn cwmpasu ystod eang o feysydd:

Cyfleoedd Cyflogaeth a Hyfforddiant

  • Recriwtio a hyfforddi pobl sydd heb fod yn weithgar yn economaidd ers amser maith a phobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant fel rhan o'r gweithlu sy'n darparu'r contract.
  • Efallai y bydd yn ofynnol ichi gytuno ar nifer penodedig o wythnosau o waith/profiad y flwyddyn i hyn a hyn o bobl (gan gytuno ar hynny wrth roi'r contract). Mae wythnos unigolyn yn cyfateb i un unigolyn yn gweithio am 5 niwrnod naill ai ar y safle neu drwy gyfuniad o waith ar y safle a hyfforddiant oddi ar y safle (boed yn cael tâl neu beidio).
  • Ystyried cyflogi prentis yn ystod cyfnod y contract.
  • Cynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr ysgolion, colegau a phrifysgolion fel rhan o'u cwrs neu i unrhyw unigolyn sydd am gael profiad yn eich sector.

Cyfleoedd o ran y Gadwyn Gyflenwi

  • Creu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig gynnig am waith drwy'r gadwyn gyflenwi.
  • Ymuno â chynlluniau mentora er mwyn rhoi cyngor a chymorth i gwmnïau newydd neu fusnesau bach a chanolig newydd.

Manteision Ychwanegol

  • Mentrau Cymunedol: Diwrnodau gwirfoddoli, cyfrannu at gynlluniau adfywio cymunedol, noddi cystadlaethau chwaraeon yn y gymuned e.e. rygbi neu bêl-droed, ac ati.
  • Cyfraniadau Addysgol: Ymwneud mewn modd cadarnhaol â phlant oedran ysgol; darparu lleoliadau gwaith ar gyfer disgyblion uwchradd a myfyrwyr; ymweld ag ysgolion cynradd; darparu cyfleoedd addysgol i ysgolion lleol e.e. ymweliadau safle ac ati, datblygu cymwysterau pwrpasol ar y cyd â cholegau lleol.

Yn dibynnu ar y broses dendro dan sylw, bydd cyfarwyddiadau wedi'u cynnwys fel rhan o'r Pecyn Gwahoddiad i Dendro ynghylch sut i gynnwys buddion cymunedol.

Mae'n debygol y gofynnir ichi gyflwyno Datganiad Dull ynghylch Mantais Gymunedol fel rhan o'ch cyflwyniad, a bydd hynny naill ai’n cael sgôr yn y gwerthusiad ansawdd yn ystod y cam cloriannu tendrau, neu'n cael ei roi naill ochr yn ystod y cam cloriannu tendrau ond yn cael ei ystyried yn achos y tendrwr llwyddiannus ac yn rhan o Delerau ac Amodau'r tendr o hynny ymlaen. Gelwir y gwahanol ymagweddau hyn yn Ymagwedd Graidd ac yn Ymagwedd Ddi-graidd.

Ymagwedd Graidd yw lle mae Manteision Cymunedol wedi eu clustnodi fel rhan graidd o'r hyn sy'n ofynnol, a'u bod felly wedi eu cynnwys yn y meini prawf dyfarnu. Mae cyflwyniadau'r tendrwyr o ran Manteision Cymunedol yn cael eu gwerthuso gyda gweddill y tendr. Os yw Manteision Cymunedol yn ddi craidd, ni fyddant yn cael eu gwerthuso fel rhan o'r broses dendro (ni phennir sgorau wrth Ddewis nac wrth Ddyfarnu); fodd bynnag gallent gael eu cynnwys yn amodau'r contract ar ôl ei ddyfarnu.

Mae nifer o asiantaethau allanol ar gael sy'n cynnig estyn cymorth ichi o ran cwblhau Cynnig ynghylch Manteision Cymunedol. Mae'r rhain yn cynnwys Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr (e.e. CBSA ac ati), Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Colegau Addysg Bellach (e.e. Coleg Sir Gâr ac ati), Prifysgolion Addysg Uwch (e.e. Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac ati).