Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

4. Sut yr ydym ni'n prynu

Bydd pob contract a wneir gennym neu ar ein rhan yn cydymffurfio â Deddfwriaeth Genedlaethol (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015), ein Rheolau Gweithdrefnau Contractau a'n Rheolau Gweithdrefn Ariannol ar gyfer Ysgolion.

Mae'r rheolau a ddilynwn ar gyfer contractau cyhoeddus yn dibynnu ar y gwerth.

Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad ar gaffael wrth gymhwyso'r rheolau hyn i holl Adrannau'r Cyngor.

Caiff y Trothwyon Caffael Cyhoeddus eu diwygio bob 2 flynedd a daeth y gwerthoedd presennol i rym ar 1 Ionawr 2024 (ON: Mae’r rhain yn CYNNWYS TAW) ac maent fel a ganlyn:

  • Contractau Cyflenwadau - £214,904
  • Contractau Gwasanaethau - £214,904
  • Contractau Gwaith Adeiladu a Pheirianneg - £5,372,609
  • Trefn Lai Manwl (Cymdeithasol a Thebyg) - £663,540