Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro
Yn yr adran hon
- 8. Beth sydd wedi'i gynnwys yn y Dogfennau Tendro?
- 9. Awgrymiadau ar Dendro - Pethau i'w gwneud ac i beidio â'u gwneud
- 10. Digwyddiadau Ymgysylltu â Chyflenwyr
- 11. Beth alla i ei baratoi'n rhagweithiol ar gyfer Tendr?
- 12. Geirfa Caffael
- 13. Cyngor a chymorth
11. Beth alla i ei baratoi'n rhagweithiol ar gyfer Tendr?
Mae yna rai cwestiynau penodol y byddwn fel arfer yn eu gofyn yn ystod proses dendro a gallai fod o helpu i chi i baratoi rhai o'r gofynion ymlaen llaw. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:-
- Disgwylir i dendrwyr fod â rhif DUNS (ar gyfer asesiad ariannol). Mae pob busnes cofrestredig yn y DU ac Iwerddon yn cael Rhif D-U-N-S yn awtomatig. Gallwch gofrestru ar gyfer un yma (dnb.co.uk)
Yswiriant
Fel arfer gofynnwn am o leiaf:
- £10m Atebolrwydd Cyhoeddus (unrhyw un digwyddiad)
- £10m Atebolrwydd y Cyflogwr (unrhyw un digwyddiad)
Yn dibynnu ar yr hyn sy'n ofynnol, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am Indemniad Proffesiynol neu Yswiriant Pob Risg y Contractwr.
Sylwer y gallai'r lefelau hyn hefyd fod yn uwch yn dibynnu ar y gwasanaethau/nwyddau neu'r gwaith yr ydym yn ei gaffael. Mae hefyd yn ofynnol gennym fod yr yswiriant yn bodloni'r sgoriau gofynnol canlynol:
- A M Best – A- (A minws)
- Standard & Poor’s – BBB
Iechyd a Diogelwch
Rhaid i bob cwmni sy'n cyflogi mwy na phum gweithiwr fod â Pholisi Iechyd a Diogelwch. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes gan eich cwmni lai na phum gweithiwr, rydym yn dweud bod yn rhaid i chi roi sylw dyledus i'ch cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch ac felly mae'n dal i fod yn ofynnol i chi gael Polisi Iechyd a Diogelwch a'i amgáu er mwyn cael gwaith gyda'r Cyngor. Gellir cael rhagor o wybodaeth a pholisi enghreifftiol a thempled ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch drwy fynd i HSE website. Bydd y Cyngor yn gofyn i chi gadarnhau eich bod wedi adolygu eich Polisi Iechyd a Diogelwch o fewn y tair blynedd diwethaf a sicrhau bod dyddiad y Polisi yn adlewyrchu dyddiad yr adolygiad diwethaf a gynhaliwyd.
Rhaid i'ch Polisi Iechyd a Diogelwch gynnwys y canlynol:
- Datganiad Polisi - wedi'i lofnodi a'i ddyddio
- Y Sefydliad a'r Cyfrifoldebau - sut y mae gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu
- Y Trefniadau – y safonau a'r gweithdrefnau a fabwysiedir wrth weithio
- Polisi Iechyd a Diogelwch wedi'i lofnodi a'i ddyddio
Asesiadau Risg
Efallai y bydd yn ofynnol i chi ddarparu enghraifft o asesiad risg wedi'i gwblhau a system weithio ddiogel / gweithdrefn. Gellir cael manylion am Asesiadau Risg hefyd ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch . Fel arall, gallwch ffonio'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0300 003 1747