Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro
Yn yr adran hon
2. Ar beth yr ydym ni'n gwario ein harian?
Rydym yn gwario dros £443 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar amrywiaeth eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith a ddarperir gan fusnesau o bob sector a maint, gydag ystod o gyfleoedd masnachol yn cynnwys Busnesau Bach a Chanolig, Sefydliadau'r Trydydd Sector, Grwpiau Lleiafrifol a Grwpiau Ffydd.
Rydym yn defnyddio dull Rheoli Categori wrth gaffael, sy'n golygu bod modd categoreiddio'r gwariant trwy grwpio ynghyd gynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig ar draws y Cyngor, a'u mapio yn ôl marchnadoedd cyflenwi perthnasol. Trwy ganolbwyntio ar ein gwariant mewn categorïau penodol gallwn herio'r hyn rydym yn ei brynu a sut rydym yn ei brynu, i sicrhau grym prynu a gwerth hyd yr eithaf.
Yn ystod 2024/2025, gwariwyd cyfanswm £443 miliwn ar draws ein 11 is-gategori.
- Gofal Cymdeithasol i Oedolion: 24.14%
- Adeiladu: 22.66%
- Corfforaethol: 16.52%
- Gwasanaethau Proffesiynol ac Ymgynghori: 7.43%
- Trafnidiaeth: 6.62%
- Cynnal a Chadw Adeiladau: 5.08%
- Rheoli Cyfleusterau: 4.57%
- Gwastraff: 4.49%
- Priffyrdd a Pharciau: 3.32%
- Gofal Cymdeithasol i Blant: 2.74%
- TGCH: 2.41%