Rhwydweithio

Diweddarwyd y dudalen ar: 21/11/2024

Mae grwpiau rhwydweithio yn gweithredu fel llwyfannau amhrisiadwy i berchnogion busnesau lleol gyfnewid syniadau, creu partneriaethau a datgloi cyfleoedd newydd.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi grwpiau rhwydweithio ledled Sir Gaerfyrddin, wedi'u hysgogi gan awydd i feithrin twf cydweithredol i rymuso'r gymuned fusnes leol.

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae'r grwpiau hyn yn ei chwarae wrth ddatblygu diwylliant o entrepreneuriaeth ac arloesedd yn Sir Gaerfyrddin.

Os ydych chi'n trefnu grŵp rhwydweithio yr hoffech ei weld yn cael ei gefnogi, neu os hoffech weld un yn cael ei greu yn eich ardal chi, cysylltwch â ni drwy e-bostio BusinessEngagment@sirgar.gov.uk