Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
Yn yr adran hon
- Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
- Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella'r cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal
- Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 3 - Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
- Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 5 - Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
- Deilliant 6 Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)
- Deilliant 7 Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg
- Sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein gweledigaeth
- Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’
Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Ble rydym ni nawr?
O ran darpariaeth ar gyfer plant meithrin/tair oed rydyn ni mewn sefyllfa gadarn a’n bwriad yw adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei gyflawni.
- Ar hyn o bryd, cyflwynir Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn Sir Gaerfyrddin drwy gymysgedd o leoliadau a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a lleoliadau nas cynhelir a ddarperir gan sefydliadau preifat neu ddielw. Y bwriad yw parhau i gynyddu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar draws y sir. Yn ystod oes y Cynllun blaenorol rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y nifer o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o ran gofal cyn-ysgol a darpariaeth addysg.
- Yn 2019/20 fe wnaeth 93.1% o’n dysgwyr drosglwyddo o Gylchoedd Meithrin i ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy’n gynnydd cyson ers 2015/16 (87.3%). (Gweler deilliant 3 am ddadansoddiad manylach).
Er mwyn sicrhau dewis i rieni, a chynnig cyfle cyfartal, caiff lleoedd eu hariannu o fewn darpariaethau mudiadau gwirfoddol a phreifat, megis Mudiad Meithrin, Cylch Ti a Fi neu Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru, yn unol â chanllawiau'r Awdurdod Lleol.
Mae'r awdurdod yn cefnogi 31 o leoliadau nas cynhelir. Mae tua 100 o leoliadau eraill nas cynhelir yn y Sir sy'n cynnig gofal plant ond nid yw'r rhain wedi'u cymeradwyo i ddarparu addysg. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth i bob darparwr gofal plant yn ogystal â rhieni.
Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda darparwyr cyn-ysgol a gofal plant i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg, drwy hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Drwy'r llyfryn 'Gwybodaeth i Rieni', hysbysir rhieni pa ysgolion a lleoliadau sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Cyfnod Sylfaen.
Hefyd, datblygwyd pamffledi defnyddiol fel ‘Cymraeg gyda'ch Plant- rhowch gynnig arni!’ yn ogystal â ‘Gwaith Cartref Cymraeg- dim problem’, gan hefyd gyfeirio rhieni a gofalwyr at glipiau ffilm yr awdurdod ac adnoddau ar-lein Llywodraeth Cymru.
Niferoedd Lleoliadau a Chylchoedd Meithrin
Numbers | 2015/2016 | 2016/2017 | 2017/2018 | 2018/2019 | 2019/2020 |
Nifer y lleoladau | 50 | 54 | 49 | 51 | 50 |
Nifer y Cylchoedd Meithrin | 57 | 64 | 61 | 60 | 57 |
Nifer y plant sy'n mynych'r Cylchoedd Meithrin | 1634 | 1715 | 1651 | 1606 | 1307 |
*Dalier Sylw: Mae newid oedrannau ysgolion wedi dylanwadu ar y niferoedd sy’n mynychu’r cylchoedd meithrin, felly hefyd tyfiant y sector breifat o fewn y Sir.
Darparwyr Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg
Math o leoliad |
Nifer lleoliadau 2013-2014 |
Nifer o leoedd 2013-2014 |
Nifer leoliadau 2016-2017 |
Nifer o leoedd 2016-2017 |
Nifer lleoliadau 2021-2022 |
Nifer o leoedd 2021-2022 |
Gofalwyr Plant | 29 | 160 | 55 | 295 | 41 | 290 |
Gofal Diwrnod Llawn | 10 | 385 | 17 | 630 | 42 | 1016 |
Gofal Sesiynol | 54 | 1076 | 51 | 935 | 25 | 481 |
Gofal ar ôl ysgol | 23 | 625 | 24 | 653 | 26 | 824 |
CYFANSWM | 116 | 2246 | 147 | 2513 | 134 | 2611 |
Nifer y disgyblion oed meithrin Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021
Canran y disgyblion oed meithrin Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021
Canran y plant dosbarth meithrin/plant 3 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw 57.54% (2020). Sir Gâr sydd â‘r nifer uchaf o ddysgwyr oed Meithrin sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan bob dalgylch yn Sir Gaerfyrddin fynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar hyn o bryd mae rhaglen Dechrau'n Deg yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig gwasanaethau ymyrraeth gynnar a dargedir i deuluoedd â phlant 0-3 oed. O achos natur y rhaglen fel un sydd wedi'i thargedu, cedwir yn llym at y rheol cod post cymwys. Fe'i sefydlwyd yn 2007, a chlustnodwyd wyth o gymunedau yn wreiddiol gan ddefnyddio'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim a dangosyddion tlodi eraill fel tystiolaeth o fannau o amddifadedd, sef: Bigyn, y Betws, Carwe, Felin-foel, Penrhos, Llwynhendy a Pharc Waun Dew. Yn 2012/13 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwasanaeth yn ehangu a chlustnododd Sir Gaerfyrddin 9 cymuned newydd arall a fyddai'n elwa ar wasanaethau cymorth dwys Dechrau'n Deg, sef: Dafen (Llanelli), Pantyffynon, y Garnant, Glanaman (Rhydaman), Gogledd Tref Caerfyrddin, y Pwll (Llanelli), Trimsaran (Cydweli), Porth Tywyn, a Phen-bre. Caiff gwasanaethau eu darparu o dan bedwar maes gwasanaeth, sef ymweliadau iechyd dwys ar sail anghenion, lleoedd gofal plant a ariennir ar gyfer plant 2-3 oed, gweithgareddau iaith yn y blynyddoedd cynnar ac ystod o raglenni rhianta, sy'n cynnig cymorth ar reoli ymddygiad a rhianta cadarnhaol.
Mae darparu gofal plant o ansawdd da i blant 2-3 oed yn ganolog i'r rhaglen a chan ei bod yn canolbwyntio ar blant sy'n byw mewn cymunedau dan anfantais, ei nod yw cynnig cyfleoedd ysgogol i wella eu deilliannau yn y tymor hir wrth baratoi at yr ysgol.
-
2026-2027
Mae ymrwymiad cryf i addysg drochi yn allweddol i’r strategaeth hon. Mae’r bwriad cenedlaethol i fandadu’r Gymraeg o 3 oed a Saesneg o 7 oed yn hollbwysig o ran cefnogi’r dull hwn. Yn ystod 5 mlynedd cyntaf y Cynllun;
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gan dargedu meysydd lle nad oes darpariaeth ar gael ar hyn o bryd.
- Byddwn yn darparu cymorth ac arweiniad drwy ein tîm Blynyddoedd Cynnar a byddwn yn parhau i rannu deunyddiau gyda rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid mewn perthynas â gwerth dwyieithrwydd er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar bob cam trosiannol.
- Byddwn yn parhau i gynyddu’r ganran sy’n trosglwyddo o’r grwpiau meithrin i'r Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg.
Er mwyn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn yn ad-drefnu'r ddarpariaeth bresennol drwy ddatblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr y blynyddoedd cynnar gan gynnwys Mudiad Meithrin a darpariaeth cyn i’r plentyn droi’n 3 oed, i gryfhau ac ehangu'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.
- Byddwn yn parhau i gryfhau ein gwaith gyda Dechrau'n Deg a gyda thîm Dysgu Cymraeg Sir Gaerfyrddin. Mae cynllunio strategol eisoes wedi dechrau drwy weithio gyda'r asiantaethau hyn i sicrhau dealltwriaeth syml ac addysgedig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy rannu taflenni a phosteri ac ati.
- Byddwn yn defnyddio'r partneriaethau hyn er mwyn eu cyfeirio at lenyddiaeth a chyhoeddiadau Cymraeg a rhannu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer dysgu oedolion.
- Mae gweithio gyda'n tîm Cymraeg i Oedolion Dysgu Sir Gâr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ein galluogi i estyn allan i'r gymuned nid yn unig drwy rannu gwybodaeth ond hefyd drwy weithio yn y gymuned.
- Byddwn yn gweithio gyda'r Tîm Derbyniadau i sicrhau bod gwybodaeth glir a chynhwysfawr a diweddar yn cael ei chynnwys yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni sydd ar gael i rieni plant o bob oed. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
- Bydd swyddogion sy'n delio ag ymholiadau yn cael hyfforddiant mewnol bob blwyddyn i sicrhau mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ateb unrhyw gwestiynau. Hefyd, mae dealltwriaeth dda yn anhepgor er mwyn iddynt allu trafod goblygiadau opsiynau cyfrwng Cymraeg. Gall hyn hefyd fod yn bwynt pwysig lle gellir gofyn cwestiynau manwl. Felly, mae'n bwysig i'r tîm derbyn fod mewn cysylltiad â Rheolwr y Gymraeg mewn Addysg pan fo angen.
- Wrth adolygu'r broses derbyn ar-lein i'r ysgol, byddwn yn ystyried taith y defnyddwyr. Mae angen i hyn fod yn weladwy iawn ac yn hawdd i'w defnyddio fel bod rhieni a gofalwyr yn gallu ystyried a deall addysg cyfrwng Cymraeg yn well o'r dechrau. Gyda'n gweledigaeth i symud pob ysgol ar hyd y Continwwm Iaith, bydd yr angen am wybodaeth gywir am ddarpariaeth ysgolion unigol yn cael ei hamlygu drwy'r tîm derbyn i ddechrau.
- Byddwn yn hyrwyddo cyfres o gynnwys gwe Llywodraeth Cymru am addysg cyfrwng Cymraeg sy'n ceisio darparu canllawiau ar sut i greu naratif cadarnhaol o amgylch y Gymraeg.
- Byddwn yn cynyddu'r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau y gall rhieni a gofalwyr wneud penderfyniadau gwybodus ar ddewis ysgol ar gyfer eu plant.
Mae Athrawon Datblygu'r Gymraeg wedi creu clipiau ffilm am Addysg Cyfrwng Cymraeg gyda disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg sydd o gymysgedd o gefndiroedd ieithyddol, yn ogystal â rhieni. Mae'r clipiau hyn yn rhoi cipolwg ar deuluoedd go iawn sydd wedi cwestiynu addysg cyfrwng Cymraeg o'r cychwyn ond sy'n huawdl iawn wrth gyfleu sut yr oedd eu diffyg dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn llywio eu penderfyniad. Mae'r rhain yn glipiau pwerus a defnyddiol iawn gan eu bod yn cyfleu llawer o faterion sy'n codi gyda rhieni a gofalwyr gall fod â rhai amheuon am Addysg Cyfrwng Cymraeg. Bydd gwybodaeth am y clipiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ynghyd â'r defnydd o'r gyfres o gynnwys ar y we sydd hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i greu naratif cadarnhaol ynghylch dwyieithrwydd.
Bydd ymgyrchoedd marchnata'n cael eu cynnal megis cyfeirio at sianelau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i blant, sy'n cynnwys adnoddau i rieni a phlant fel caneuon, clipiau ffilm a gwybodaeth.
-
2031-2032
Er mwyn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn wedi:-
- Datblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg
- Cefnogi ysgolion dwy ffrwd a throsiannol presennol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Buddsoddi mewn sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd newydd gan ddefnyddio'r lle sydd ar gael.
- Ystyried ystod oedran ysgolion penodol ac o bosibl creu lle ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar iawn cyfrwng Cymraeg
- Parhau i fonitro'r galw mewn ardaloedd trefol
- Ail-ddynodi pob ysgol yn fanteisiol iawn i wella'r niferoedd mewn darpariaethau cyn-ysgol a gofal plant.
Ein nod yw bod yr holl ddarpariaeth cyn-ysgol a gofal plant yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog o fewn y cynllun 10 mlynedd.
-
Data Allweddol
Niferoedd a % y plant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
2022-2023 2023 - 2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027 1358 / 58% 1381 / 59% 1404 / 60% 1451 / 62% 1478(+120) / 63% 2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032 1545 / 66% 1615 / 69% 1662 / 71% 1709 / 73% 1756(+398) / 75%