Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’

Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr

NOD: Cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gâr a sicrhau dilyniant ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel y daw pob disgybl yn rhugl ac yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Addysg Cyn-Ysgol

  1. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin a darparwyr preifat i sicrhau bod addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o Sir Gâr.

Y Sector Cynradd

  1. Bod y Cyngor Sir yn paratoi cynllun gwaith ac amserlen bendant, mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu ysgolion, er mwyn symud pob ysgol gynradd ar hyd continwwm iaith. Bydd angen datblygu strategaethau ar gyfer yr amrywiol gategorïau ac ardaloedd daearyddol;
  2. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion trawsnewidiol Sir Gâr (sef ysgolion cyfrwng Cymraeg ond â defnydd sylweddol o’r Saesneg) er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg;
  3. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion dwy ffrwd Sir Gâr er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg;
  4. Bod y Cyngor Sir yn cytuno ar yr egwyddor y dylai pob ysgol gynradd Saesneg dros gyfnod o amser gyflwyno’r cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg fel man cychwyn gan ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 (CA2);
  5. Bod y Cyngor Sir yn dechrau’r broses o adnabod ysgolion cyfrwng Saesneg fyddai’n barod i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn weddol o fuan gyda’r nod yn CA2 i gynnig dewis rhwng ffrwd Gymraeg neu ffrwd ddwyieithog (25-50% cyfrwng Cymraeg);
  6. Bod y Cyngor Sir yn rhoi ystyriaeth fanwl i fodel presennol canolfannau iaith/hwyrddyfodiaid Sir Gâr yn y sector cynradd ac i ddatblygu’r ddarpariaeth ar sail model Cynghorau Gwynedd a Cheredigion;
  7. Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu Siartr Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd (sy’n annog plant i siarad Cymraeg yn yr ysgol ac yn gymunedol) a’i addasu at ofynion Sir Gaerfyrddin;
  8. Bod y Cyngor Sir yn ailedrych a sicrhau bod ysgolion cynradd Cymraeg yn rhan o deulu ysgol uwchradd sy’n gallu darparu continwwm ieithyddol addas o’r sector cynradd ymlaen i CA3 a CA4 a chynnal gweithgareddau pontio sy’n adlewyrchu natur ieithyddol yr ysgolion cynradd sy’n eu bwydo;
  9. Bod y Cyngor Sir yn cynnwys disgwyliadau o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o gytundeb gydag ysgolion, ochr yn ochr â disgwyliadau o ran disgyblaeth, cyrhaeddiad a phresenoldeb;
  10. Bod y Cyngor Sir, pe gwireddir yr argymhellion uchod, yn ymwybodol o’r angen i gynllunio ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg yn y sector uwchradd.

Ysgolion Uwchradd

  1. Bod y Cyngor Sir yn disgwyl i ysgolion uwchradd adeiladu ar y sylfaen ieithyddol a osodwyd gan yr ysgolion cynradd Cymraeg drwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel cyfrwng dysgu hyd at CA4;
  2. Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu protocol dilyniant clir gyda phob ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg (neu ddwyieithog), gyda hyfforddiant priodol lle bo angen, er mwyn cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol:
  3. Bod y Cyngor Sir yn ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu cynllun ail-gyfle yn y cyfnod pontio rhwng y sector cynradd a’r uwchradd gan fabwysiadu’r Cynllun Trochi sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ledled Cymru;
  4. Bod y Cyngor Sir yn cytuno ar amserlen a chynllun i gefnogi ysgolion 2A, 2B a 3 i symud ar hyd y continwwm iaith dros gyfnod o amser a rhoi arweiniad i sicrhau bod pob ysgol uwchradd arall yn symud ar hyd y continwwm iaith a chreu ethos sy’n annog parch tuag at y Gymraeg;
  5. Bod y Cyngor Sir yn cynllunio ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd.

Marchnata Addysg Gymraeg

  1. Bod y Cyngor Sir yn cynnal ymgyrch farchnata barhaus i hyrwyddo addysg Gymraeg gan esbonio manteision bod yn ddwyieithog i rieni a disgyblion;
  2. Bod y Cyngor Sir yn darparu hyfforddiant i lywodraethwyr cynradd ac uwchradd ar fanteision addysg Gymraeg a’r rhesymau addysgiadol, economaidd a chymunedol pam y dylid ehangu’r ddarpariaeth ar draws y sir.

Cyffredinol

  1. Bod y Cyngor Sir yn cynnal asesiad o’r galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd lle ystyrir bod angen;
  2. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio gyda phob corff Llywodraethol i gynnal awdit sgiliau iaith er mwyn ystyried anghenion ieithyddol y gweithlu ar gyfer gallu symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith.
  3. Bod y Cyngor Sir yn sicrhau cefnogaeth ac adnoddau priodol i ddatblygu ac arwain strategaeth i hyrwyddo ac ehangu addysg Gymraeg yn Sir Gâr.

 

NOD: I gynyddu ystod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein cymunedau, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn atgyfnerthu’r iaith y tu allan i furiau’r ysgol.

Gwasanaethau Ieuenctid

  1. Bod y Cyngor Sir yn cydlynu grŵp gweithredu strategol fyddai’n cynnwys ysgolion uwchradd, mudiadau ieuenctid y sir, y sector addysg bellach ac uwch a’r sector hamdden i gynllunio a chysylltu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau y gwneir y defnydd gorau posib o’r adnoddau sydd ar gael o fewn y Sir, i dargedu adnoddau yn ôl y gofyn ac i adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.
  2. Bod y grŵp gweithredu strategol yn sicrhau ei fod yn datblygu cyfleoedd cymunedol cyfrwng Cymraeg a fydd yn cefnogi ac yn atgyfnerthu’r cwricwlwm addysgol.
  3. Bod y Cyngor Sir yn cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn ei wasanaeth ieuenctid ac yn cefnogi staff o fewn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  4. Yn unol ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Glybiau Ieuenctid (Ionawr 2014) blaenoriaethu cynyddu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r ymagwedd strategol newydd drwy gomisiynu rhai sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth ieuenctid agored trwy gyfrwng y Gymraeg.