Datganiad ynghylch Gwastraff ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Ein strategaeth wastraff
Mae ein strategaeth yn deillio o ddogfen strategaeth wastraff bresennol Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’. Mae'n amlinellu canlyniadau lefel uchel, polisïau, a thargedau i Awdurdodau Lleol eu dilyn. Mae’n rhoi gwybodaeth i ni ynglŷn â sut i reoli gwastraff domestig sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru mewn modd sy’n creu manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi ei strategaeth ‘Tu Hwnt i Ailgylchu’ sy’n canolbwyntio ar economi fwy cylchol, gan ddefnyddio gwastraff fel adnodd a lleihau carbon. Mae’n gosod targedau manylach i ni eu dilyn, mewn ymgais i fynd â Chymru o fod y 3ydd yn y byd o ran ailgylchu i fod yn 1af.
Ein gweledigaeth a’n hamcanion yn Sir Gaerfyrddin yw gweithio tuag at gyflawni’r targedau statudol a osodwyd yn strategaeth Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ein bod yn gwneud ein rhan i gyflawni ‘Dyfodol diwastraff’ erbyn 2050. Mae’r targedau statudol hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru bwerau deddfwriaethol i roi dirwy i Gynghorau nad ydynt yn cyflawni’r targedau a bennwyd sef bod gwastraff trefol yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i’w ailddefnyddio, neu ei gompostio. Gall hyn arwain at ddirwyon o £200 y dunnell am bob tunnell o wastraff y mae Sir Gaerfyrddin yn methu â'i brosesu drwy'r hierarchaeth wastraff.
Mae dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yn flaenoriaeth ac mae methu â dargyfeirio ‘Gwastraff Trefol pydradwy’ o safleoedd tirlenwi yn cynnwys cost o £200 y dunnell ychwanegol at y lwfans penodedig.
Byddwn yn cyd-fynd â’r polisïau a’r targedau a osodwyd yn strategaethau Llywodraeth Cymru gan roi ffocws clir ar economi gylchol, addewid carbon sero net, amgylchedd glanach, a strategaeth i ddatblygu ymhellach y gwaith da a gyflawnwyd eisoes gan Gymru a’n safle fel y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu. Nod Sir Gaerfyrddin yw chwarae ein rhan yn llwyddiant cyffredinol Cymru a bod yn sir sy’n perfformio’n dda o ran lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff heddiw ac yn y dyfodol.