Datganiad ynghylch Gwastraff ar gyfer Sir Gaerfyrddin

Symud ymlaen, y blynyddoedd nesaf yn Sir Gaerfyrddin

Yn ogystal â chyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff hylendid yn hydref 2021, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi sicrhau gwasanaeth casglu gwastraff cewynnau newydd sy'n cael ei chyflwyno yng ngwanwyn 2022. Bydd preswylwyr sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn, sy'n rhad ac am ddim, yn cael bagiau porffor, a fydd yn cael eu casglu bob pythefnos. Bydd y gwastraff yn cael ei brosesu yn Nappy Cycle yng Nghapel Hendre. Wrth brosesu, mae deunyddiau fel plastig yn cael eu hadfer a'u hailgylchu lle bo modd.

Gwastraff gardd
Bydd cerbydau gwastraff gardd ychwanegol yn ein galluogi i ymestyn y cynllun i hyd yn oed fwy o gartrefi a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon. Mae’r holl wastraff gardd yn cael ei brosesu yn Nant-y-caws i gynhyrchu ‘Compost Hud Myrddin’.

Prosiect ailddefnyddio
Mae Sir Gaerfyrddin wedi sicrhau cyllid grant economi gylchol Llywodraeth Cymru i adeiladu pentref ailddefnyddio yn Nant-y-caws ac agor siop ailddefnyddio yng nghanol tref Llanelli. Lansiwyd prosiect ‘Eto’ ym mis Chwefror 2022 pryd yr agorwyd siop Llanelli, ac mae disgwyl i’r pentref ailddefnyddio agor yng ngwanwyn 2022. Bydd preswylwyr yn gallu mynd ag eitemau gwastraff sy’n addas i’w hailddefnyddio/atgyweirio i bob un o’n canolfannau ailgylchu, gan leihau gwastraff a rhoi ail fywyd iddynt.

Bwriad y newid hwn yw creu mwy o gyfleoedd ailddefnyddio ac atgyweirio i breswylwyr, gan eu hannog i leihau eu gwastraff fel blaenoriaeth cyn ystyried unrhyw opsiynau ailgylchu. Bydd yn rhoi cyfle i breswylwyr brynu eitemau am bris fforddiadwy gan ailddefnyddio eitem a fyddai wedi cael ei thaflu yn y gorffennol.

Cyfleuster Ailddefnyddio Paent
Trwy gyllid Economi Gylchol y llywodraeth, mae cyfleuster ailddefnyddio paent i fod i ddechrau yng ngwanwyn 2022 yn Nant-y-caws, lle bydd paent emwlsiwn dyfrsail a dderbynnir yn y pedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn cael ei gymysgu a’i ailwerthu yn ein siopau ailddefnyddio ‘Eto’.

Canolfan Ailgylchu Fasnachol
Mae cyfleuster ailgylchu gwastraff masnachol yn cael ei ddatblygu yn Nant-y-caws. Bydd y ganolfan yn fan gwerthu i'r sector busnes yn Sir Gaerfyrddin ailgylchu ac ailddefnyddio eu gwastraff. Ar ôl i'r gwastraff gael ei wahanu, bydd yn adnodd ar gyfer marchnadoedd adfer ac ailgylchu, i'w ddefnyddio i greu cynnyrch cynaliadwy, gan weithio tuag at uchelgeisiau economi gylchol Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfleuster hwn yn cynyddu faint o wastraff ailgylchadwy sy'n cael ei ddal gan fusnesau lleol yn sylweddol. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i ailddefnyddio ac ailgylchu mwy o’u gwastraff, lleihau eu hôl troed carbon, a dod yn fwy effeithlon o ran adnoddau. Bydd hyn yn galluogi busnesau lleol i arbed arian ar gostau gwaredu er mwyn dod yn fwy gwydn a chyflawni canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

Newidiadau yn y dyfodol i gasgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd
O hydref 2022, byddwn yn dechrau casglu:

  • Bagiau glas bob wythnos
  • Casgliadau gwydr bob tair wythnos
  • Bagiau du bob tair wythnos – hyd at uchafswm o dri bag fesul casgliad
  • Bydd gwastraff bwyd yn parhau i gael ei gasglu'n wythnosol

Yn 2024, byddwn yn cyflwyno:

  • Casgliadau wythnosol ar wahân ar gyfer gwydr, papur, cardbord, caniau, plastig, tecstilau, batris a theclynnau bach ar gyfer y tŷ.

Bydd casgliadau gwastraff gardd y codir tâl amdanynt a chasgliadau cewynnau a hylendid am ddim yn parhau fel gwasanaethau tanysgrifio, a gesglir bob pythefnos.