Addysg

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Autside: Arbenigwyr mewn awtistiaeth sy'n cynnig hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chefnogaeth.

Dewis - partner iechyd a llesiant Cymru

Addysg ac Ysgolion - Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am addysg a chymorth i blant. Mae hyn yn cynnwys ysgolion sy’n rhoi cymorth arbenigol i blant 5-16 oed ac addysg ôl-16 i bobl ifanc.

Addysg ac Ysgolion

Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) – Help a gwybodaeth gyffredinol i rieni ac i ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin

Chwilio am Ofal Plant - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Cwrs ar-lein ar gyfer rhieni sy’n gwahanu er mwyn helpu i reoli gwrthdaro a lleihau'r effaith ar blant.

Pan fydd rhieni sydd wedi gwahanu yn dadlau, mae'n gyffredin i blant deimlo eu bod yn cael eu dal yn y canol. Mae'r cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn wedi'i gynllunio i helpu rhieni sydd wedi gwahanu i gyfathrebu'n well â'i gilydd ac i gydweithio fel rhieni ar ôl gwahanu. Byddwch yn dysgu sgiliau cyfathrebu cadarnhaol fel aros yn bwyllog, gweld pethau'n wahanol, a siarad drosoch eich hun fel y gallwch ddatrys anghytundebau â rhiant arall eich plentyn a dod o hyd i atebion gyda'ch gilydd. Gallwch wneud y cwrs ar eich pen eich hun, ar eich cyflymder eich hun.

Dadlau'n well

Mae anghytundebau yn rhan arferol o fywyd, ac mae'r rhan fwyaf o gyplau yn dadlau o
bryd i'w gilydd. Gall sut rydych chi'n delio ag anghytundebau wneud gwahaniaeth
mawr i chi, eich partner, a'ch plant. Gall y cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn eich helpu i ddysgu sut i reoli sgyrsiau anodd, osgoi gwrthdaro, a gwella pethau i'ch teulu cyfan.

Fi, Ti a'r Babi hefyd

Mae blinder a straen yn gyffredin pan fyddwch chi'n gofalu am fabi. Os yw bod yn rhiant yn arwain at fwy o ddadleuon rhyngoch chi a'ch partner, gallai'r cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn helpu. Gydag awgrymiadau a chyngor ar sut i siarad am bynciau anodd, rhannu straen, ac atal dadleuon, bydd y cwrs byr hwn yn eich helpu chi a'ch partner i ddod trwy amseroedd heriol gyda'ch gilydd.

Creu eich cyfrif am ddim:

www.oneplusone.org.uk/parents 

I gael mynediad i'r cyrsiau, bydd angen cysylltiad rhyngrwyd da a ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur arnoch.

Croeso i Goleg Llanymddyfri, rydym yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol i fechgyn a merched rhwng 4 a 18 oed yng nghanol cefn gwlad Cymru. Mae ein disgyblion yn derbyn addysg academaidd bwrpasol wedi'i theilwra i gyffroi ac i ysbrydoli meddyliau ifanc.

Rydym yn darparu amgylchedd dysgu ysgogol a boddhaus lle mae gan athrawon, mewn dosbarthiadau bach, amser i roi'r sylw unigol y maent yn ei haeddu i'ch plentyn. Mae ein llwyddiant a'n henw da yn ymwneud â sicrhau'r canlyniadau academaidd gorau ochr yn ochr â rhaglen weithgareddau gyfoethog ac amrywiol sy'n caniatáu i'ch plentyn ragori ar ei ddisgwyliadau.

Coleg Llanymddyfri

Mae ein staff arbenigol yn gymwys ac wedi'u hyfforddi yn addysg plant ag awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig. Mae gennym gymwysterau ôl-raddedig mewn Anghenion Addysgol Arbennig, Awtistiaeth, Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ac Ymddygiad Heriol a graddau mewn Gwyddorau Ymddygiad. Rydym yn dîm o athrawon cymwys, cynorthwywyr addysgu a therapyddion.

Amdanom Ni (gwenllianeducationcentre.co.uk)

Wedi'i sefydlu yn 2017, crëwyd picturepath mewn cydweithrediad ag unigolion awtistig, eu gofalwyr, a nifer o sefydliadau sy'n ceisio gwella eu cynnig cymorth i'r gynulleidfa hon.

Ein nod yw helpu pobl ag anghenion cymorth ychwanegol i deimlo'n fwy diogel ac yn fwy hamddenol gartref, yn yr ysgol neu mewn amgylcheddau newydd.

Creu amgylcheddau cynhwysol ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol. Mae Picturepath yn cefnogi'r rhai sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, fel awtistiaeth, i ffynnu gartref, mewn addysg a thrwy holl brofiadau bywyd.

Hefyd ar gael ar yr App Store a'r Google Play Store

Dolen i'r wefan - Visual Timeline Tool for SEN Children | picturepath (mypicturepath.com)

I gysylltu - Contact Us - picturepath (mypicturepath.com)