Gofal cymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Gwybodaeth, adnoddau, hyfforddiant a chymorth. Yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru, gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

Autside: Arbenigwyr mewn awtistiaeth sy'n cynnig hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chefnogaeth.

Gwasanaeth Plant Sir Gaerfyrddin - Cymorth i'r rheiny sy'n poeni am ddiogelwch plentyn. 

Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn rhoi cymorth i blant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth a'u teuluoedd. Rydym yn cynnig gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn y tymor byr, a'n nod yw cynorthwyo plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i oresgyn heriau a chyflawni eu potensial. 

Pwy maent yn helpu 

  • Pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin 
  • Rhaid i chi fod rhwng 0 a 25 oed 
  • Rhiant/gofalwr rhywun sydd rhwng 0 a 25 oed 
  • Plant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth (wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis) a'u teuluoedd

Beth maent yn gallu ei gynnig

  • Cynllun cymorth y byddwn yn ei ddatblygu gyda'n gilydd ac yn ei adolygu yn ôl yr angen
  • Cymorth pwrpasol o ran anghenion synhwyraidd, cydnerthedd, dulliau ymarferol o reoli ymddygiad a gorbryder. 
  • Gallwn eich helpu i gamu ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant
  • Gallwn eich helpu chi a'ch teulu i nodi gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau perthnasol yn y gymuned a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich nodau. 
  • Gallwn eich helpu i ddeall mwy am eich anabledd/awtistiaeth.

 

Mae’r Tîm Camau Bach yn rhan o'r Tîm Cymorth Cynnar ac mae'n gallu cynnig cymorth yn y tymor byr i rieni sydd â phlentyn anabl rhwng 0 ac 16 oed.

Gall hyn gynnwys cymorth gyda chyfathrebu, cysgu, gallu dal dŵr, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd. Maent yn cynnig: 

  • Cymorth yn y cartref.
  • Cymorth Cyn-ysgol
  • Gweithdai Anableddau.
  • Cymorth grŵp i rai rhwng 0 ac 16 oed; megis boreau coffi, Gweithdai Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol a grwpiau cymorth i blant ac ati.

 

Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Anabledd - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Rhif Ffôn –  01267 246673

Cyfeiriad e-bost: disabilityreferrals@sirgar.gov.uk 

 

Tîm Anableddau 0-25 

Anabledd ac Awtistiaeth

Mae gwirfoddolwyr gweithgar y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant awtistig a'u teuluoedd yn eu hardal leol.

Cangen Sir Gaerfyrddin

Tudalen Facebook Cangen Sir Gaerfyrddin

Cyfeiriad e-bostcarmarthenshire.branch@nas.org.uk

 

Mae Plant Dewi yn sefydliad sy'n rhoi cymorth i deuluoedd sydd â phlant rhwng 0 ac 11 oed. Maent yn cynnig cymorth i rieni, cyrsiau rhianta, gwybodaeth ynghylch ffordd iach o fyw a gweithgareddau diogelwch yn y cartref, ac yn meithrin hyder.

Rhif ffôn: 01267 221551

Os ydych yn poeni am eich plentyn, yn profi straen ynghylch rhianta neu'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin, gall y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT) ddod â'r bobl iawn ynghyd i'ch helpu chi.

Rhif ffôn: 01267 246555 (Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd)

Cyfeiriad: Y Tîm o Amgylch y Teulu

Cymorth i Deuluoedd, Plant ac Addysg

Adeilad 2, Parc Dewi Sant

Heol Ffynnon Job

Caerfyrddin

SA31 3HB                                                                                                

Cyfeiriad e-bost: TAF@sirgar.gov.uk