Addysg

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Mae Elidyr yn goleg preswyl arbenigol ar gyfer pobl ifanc 18 - 25 oed gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Cysylltwyr Cymunedol – Cymorth i gael mynediad at gyfleoedd yn eich cymuned os ydych dros 16 oed - Y Tîm Cymorth Cynnar  

Mae Cysylltwyr Cymunedol hefyd wedi'u lleoli ar draws Sir Gaerfyrddin ac maent yn darparu cymorth i bobl ifanc ac i deuluoedd i'ch rhoi mewn cysylltiad â phobl, grwpiau a gweithgareddau sy'n iawn i chi ac i'ch teulu. Mae'r gwasanaeth am ddim.

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin

 

Mae ein staff arbenigol yn gymwys ac wedi'u hyfforddi yn addysg plant ag awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig. Mae gennym gymwysterau ôl-raddedig mewn Anghenion Addysgol Arbennig, Awtistiaeth, Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol ac Ymddygiad Heriol a graddau mewn Gwyddorau Ymddygiad. Rydym yn dîm o athrawon cymwys, cynorthwywyr addysgu a therapyddion.

Amdanom Ni (gwenllianeducationcentre.co.uk)

Wedi'i sefydlu yn 2017, crëwyd picturepath mewn cydweithrediad ag unigolion awtistig, eu gofalwyr, a nifer o sefydliadau sy'n ceisio gwella eu cynnig cymorth i'r gynulleidfa hon.

Ein nod yw helpu pobl ag anghenion cymorth ychwanegol i deimlo'n fwy diogel ac yn fwy hamddenol gartref, yn yr ysgol neu mewn amgylcheddau newydd.

Creu amgylcheddau cynhwysol ar gyfer pobl ag anghenion ychwanegol. Mae Picturepath yn cefnogi'r rhai sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, fel awtistiaeth, i ffynnu gartref, mewn addysg a thrwy holl brofiadau bywyd.

Hefyd ar gael ar yr App Store a'r Google Play Store

Dolen i'r wefan - Visual Timeline Tool for SEN Children | picturepath (mypicturepath.com)

I gysylltu - Contact Us - picturepath (mypicturepath.com)

Mae Ruskin Mill Trust yn elusen addysgol sy'n gweithredu yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac yn cynnig amgylcheddau dysgu awyr agored cyffrous, gan ddefnyddio gweithgareddau tir a chrefft ymarferol i gefnogi datblygiad sgiliau gwaith a bywyd ymhlith pobl ifanc ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu eraill.

Mae dull Ruskin Mill Trust o Addysg Therapiwtig Sgiliau Ymarferol yn cyfuno dirnadaeth Rudolf Steiner o ysbrydoliaeth addysgol a'i ddealltwriaeth o ddatblygiad cyfnodol dynol, ac mae wedi'i ysbrydoli gan waith John Ruskin a William Morris. Gan weithio gyda llaw, pen, calon a lle, trwy weithgareddau ymarferol, celfyddydau perfformio, therapïau, diwylliant a menter gymdeithasol, mae Ruskin Mill Trust yn helpu unigolion i ail-ddychmygu eu potensial.

Mae Mentoriaid Cymheiriaid Cyfle Cymru yn helpu pobl i ddatblygu hyder, a darparu cymorth i gael mynediad at hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith.
Rydym yn helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl i ennill y sgiliau angenrheidiol i fynd i fyd gwaith.

Rydym yn cynnig y canlynol:
>>> Cefnogaeth un-i-un gan fentor cymheiriaid
Mae ein mentoriaid cymheiriaid yn defnyddio eu profiad eu hunain o gamddefnyddio sylweddau, adferiad a/neu gyflyrau iechyd meddwl. Maen nhw'n deall beth rydych chi'n mynd drwyddo, a gallant fod gyda chi pan fyddwch chi'n wynebu profiadau newydd. Mae ein harbenigedd mewn triniaeth ac adferiad yn golygu y gallwch ymddiried ynom i'ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir.
>>> Cefnogaeth a chyfleoedd arbenigol
> mynediad at gymwysterau a hyfforddiant
> cyfle i roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned
> profiad gwaith go iawn
> helpu i chwilio a gwneud cais am swyddi
> cymorth parhaus ar ôl i chi fynd i mewn i waith, hyfforddiant neu addysg i'ch helpu i setlo i mewn

 Wefan

https://adferiad.org.uk/cyflecymru/

Cysylltu

Mae’r Coleg yn Ne-orllewin Cymru ac yn cynnwys pum prif gampws yn Llanelli (Graig), Caerfyrddin (Pibwr-lwyd a Ffynnon Job), Rhydaman a Llandeilo (Gelli Aur).  Mae’r Coleg hefyd yn gartref i Ysgol Gelf Caerfyrddin sy’n dyddio’n ôl i 1854.

Coleg Sir Gâr - Hafan (colegsirgar.ac.uk)