Gofal cymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Mae Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin yn elusen annibynnol yn Sir Gaerfyrddin sy'n hyrwyddo eiriolaeth, ac yn darparu cymorth a hyfforddiant i oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Maent yn cynnal nifer o grwpiau cymorth gan gyfoedion i gyfoedion, gan ymdrin â phynciau megis Eiriolaeth gan Gyfoedion, Byw'n Annibynnol, Materion yn ymwneud ag Arian, Iechyd, Lles a Choginio. Maent hefyd yn cynnal Grwpiau Cerdded a Siarad.

Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth, mae'n rhaid ichi fod yn:

  • oedolyn gydag Anabledd Dysgu
  • byw yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd

Cyfeiriad E-bost: info@carmarthenshirepeoplefirst.co.uk

Rhif Ffôn: 01267 234635

Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn rhoi cymorth i blant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth a'u teuluoedd. Rydym yn cynnig gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn y tymor byr, a'n nod yw cynorthwyo plant/pobl ifanc a'u teuluoedd i oresgyn heriau a chyflawni eu potensial. 

Pwy maent yn helpu

  • Pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin 
  • Rhaid i chi fod rhwng 0 a 25 oed 
  • Rhiant/gofalwr rhywun sydd rhwng 0 a 25 oed 
  • Plant/pobl ifanc ag anableddau/awtistiaeth (wedi cael diagnosis neu heb gael diagnosis) a'u teuluoedd

Beth maent yn gallu ei gynnig

  • Cynllun cymorth y byddwn yn ei ddatblygu gyda'n gilydd ac yn ei adolygu yn ôl yr angen
  • Cymorth pwrpasol o ran anghenion synhwyraidd, cydnerthedd, dulliau ymarferol o reoli ymddygiad a gorbryder. 
  • Gallwn eich helpu i gamu ymlaen i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant
  • Gallwn eich helpu chi a'ch teulu i nodi gweithgareddau, cymorth a gwasanaethau perthnasol yn y gymuned a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich nodau. 
  • Gallwn eich helpu i ddeall mwy am eich anabledd/awtistiaeth.

 

Mae’r Tîm Camau Bach yn rhan o'r Tîm Cymorth Cynnar ac mae'n gallu cynnig cymorth yn y tymor byr i rieni sydd â phlentyn anabl rhwng 0 ac 16 oed.

Gall hyn gynnwys cymorth gyda chyfathrebu, cysgu, gallu dal dŵr, ymddygiad, deiet, chwarae, datblygiad plant a chymorth i frodyr a chwiorydd. Maent yn cynnig:

  • Cymorth yn y cartref.
  • Cymorth Cyn-ysgol
  • Gweithdai Anableddau.
  • Cymorth grŵp i rai rhwng 0 ac 16 oed; megis boreau coffi, Gweithdai Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol a grwpiau cymorth i blant ac ati.

 

Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Anabledd - Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Rhif Ffôn –  01267 246673

Cyfeiriad e-bost: disabilityreferrals@sirgar.gov.uk

 

Tîm Anableddau 0-25

Anabledd ac Awtistiaeth

 

Mae Cysylltu Sir Gâr yn wasanaeth cymorth ataliol newydd sy'n cynnig cyngor a chymorth am ddim i bobl sy'n byw ledled y sir.

YDYCH CHI'N …

Profi anawsterau wrth ddeall a llywio gwasanaethau cymorth tai?

Ydych chi'n berson hŷn neu'n berson ag anabledd corfforol?

Canfod bod bywyd bob dydd yn effeithio ar eich lles meddyliol? 

Gofalu am ffrindiau neu aelodau'r teulu?

Oes gennych chi anabledd dysgu neu awtistiaeth?

Os mai 'ydw/oes' yw'r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, yna cysylltwch â ni.

 

Os ydych yn byw yn ardaloedd Gwendraeth, Llanelli neu Aman cysylltwch â ni:

www.connectcarmarthenshire.org.uk

connectingcarmarthenshire@poblgroup.co.uk

0800 917 6255