Cylch gorchwyl FfMLl
Bydd y Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) yn cael ei galw’n Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin.
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Gwaith Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin yw rhoi cyngor i Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac eraill fel bo’n briodol, am wella mynediad i’r cyhoedd ar dir yn yr ardal at ddibenion hamddena yn yr awyr agored a mwynhau’r ardal mewn ffyrdd sy’n cymryd i ystyriaeth reolaeth y tir, a buddiannau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol ac addysgol.
Bydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin yn cyflawni’r swyddogaeth hon drwy gynghori ar faterion sy’n arbennig o berthnasol yn lleol, yn cynnwys:
- Cefnogi gweithredu’r hawl mynediad newydd i gefn gwlad agored
- Gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy
- Datblygu strategaethau hamdden a mynediad sy’n gofalu am bawb.
Bydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin yn gweithio tuag at:
- Ddatblygu agwedd adeiladol a chynhwysol at wella mynediad i gefn gwlad i hamddena
- Parchu amgylchiadau lleol a buddiannau gwahanol wrth weithredu o fewn canllaw cenedlaethol
- Rhoi cyngor ar faterion o egwyddor ac ymarfer da
- Agor trafodaeth adeiladol a cheisio cael cytundeb lle bynnag bo modd
- Os na cheir cytundeb, gwneud natur y gwahanol safbwyntiau yn glir ac awgrymu sut y gallant gael eu datrys.
Gweinyddiaeth
Bydd gan Fforwm Mynediad Lleol Sir Gaerfyrddin Ysgrifennydd a benodwyd gan yr Awdurdod Penodi (Cyngor Sir) a fydd yn gyfrifol am:
- Roi cefnogaeth i Gadeirydd y Fforwm
- Sicrhau bod y Fforwm wedi ei sefydlu ac yn cael ei redeg yn unol â Deddf CROW, Rheoliadau FfMLl a’r Cylch Gorchwyl hwn
- Rheoli unrhyw adnoddau sydd wedi eu clustnodi ar gyfer y gwaith hwn
- Trefnu a chyhoeddi cyfarfodydd, yn cynnwys trefnu i ddosbarthu papurau a gwybodaeth i aelodau’r Fforwm ac i’r cyhoedd
- Cadw cofnodion o gyfarfodydd y Fforwm sy’n cynnwys penderfyniadau, nodiadau a chamau gweithredu yn unig.
Cyfarfodydd
- Cynhelir cyfarfodydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ac yn fwy aml fel a phryd y bo angen, hyn i’w gytuno gan y FfMLl a’r Awdurdod Penodi
- Bydd y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd yn cytuno ar agenda’r cyfarfod – er y gall unrhyw aelod gynnig eitemau i’w hystyried ar yr agenda
- Bydd cyfarfodydd yn cael eu hysbysu ymlaen llaw a’r cofnodion yn cael eu cyhoeddi
- Bydd y Fforwm yn gwahodd ymgynghorwyr / arsyllwyr i’r cyfarfod pan y bo’n briodol
- Bydd ymgynghorwyr / arsyllwyr yn cael cyfrannu i’r drafodaeth ar ddisgresiwn y Cadeirydd
- Bydd gan un cynrychiolydd o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac un o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac unrhyw swyddog o’r Awdurdod Penodi statws arsyllwr yn awtomatig
- Os bydd angen bydd pwyllgorau FfMLl yn cael eu sefydlu gan y Cadeirydd ar ôl cytuno â’r aelodau
- Bydd pob un o gyfarfodydd y FfMLl yn rhai cyhoeddus. Fodd bynnag, gall y person sy’n cadeirio, yn dilyn cais gan aelod neu aelodau, benderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o eitemau arbennig oherwydd preifatrwydd personol neu gyfrinachedd masnachol.
Mwy ynghylch Hawliau Tramwy Cyhoeddus