Polisi Codi Tâl Mynediad i Gefn Gwlad - Celfi Llywybrau Cyhoeddus
Yn yr adran hon
- Adran 1 - Crynodeb
- Adran 2 - Cyd-destun Cyfreithiol
- Adran 3 - Egwyddorion y Polisi hwn
- Adran 4 - Telerau Talu
- Adran 5 - Codi tâl am gyflenwi/gosod celfi
Adran 3 - Egwyddorion y Polisi hwn
Mae llai o arian yn golygu nad yw'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn gallu parhau i weithio yn yr un ffordd ag o'r blaen, gan ariannu'r gwaith o gyflenwi a gosod celfi ar draws y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ar ran y tirfeddiannwr bron ym mhob achos.
Mae angen polisi cydlynol ar gyfer cyflenwi celfi a/neu ddeunyddiau i dirfeddiannwr, ac ar gyferpryd y dylid codi tâl ar dirfeddiannwr am waith a wneir gan yr Awdurdod ar ei ran. Bydd cyflwyno polisi cymeradwy o adennill costau ar gyfer gosod celfi ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn ein galluogi i ddarparu canllawiau clir a chyson i dirfeddianwyr.
Mae’r penderfyniad i newid i bolisi o godi tâl am gelfi yn unol â Deddf Priffyrdd 1980. Bydd gweithredu'r polisi yn helpu i gyflawni’r ‘Mynediad Lleiaf Rhwystrol’ ar draws rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus Sir Gaerfyrddin; polisi sydd wedi’i gynnwys yn ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) 2019-2029. Bydd nifer o gamau gweithredu CGHT hefyd yn cael eu cefnogi gan y polisi gan gynnwys cynnal a chadw rhwydwaith, gwaith gwella a hygyrchedd.
Mae gan y polisi hwn y potensial i gynyddu capasiti o fewn y gwasanaeth trwy greu incwm ychwanegol a allai ariannu mwy o gelfi ar draws y Sir, gan agor mwy o lwybrau i'r cyhoedd.
Bydd paramedrau'r polisi hwn yn mynnu bod y gwasanaeth yn cadw stoc celfi ac offer safonol yn hytrach na'r ystod a gedwir ar hyn o bryd. Mae gan hyn y potensial i gynyddu capasiti o fewn y gwasanaeth trwy leihau gwariant ar gadw stoc amrywiol fel a wneir ar hyn o bryd.
Dyma'r paramedrau y byddwn bellach yn gweithio o'u mewn yn gyffredinol yn amodol ar adolygiad cyfnodol i gymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau ariannol, amrywiadau mewn polisi Awdurdod Cenedlaethol neu Leol a/neu newidiadau i'r fframwaith cyfreithiol a statudol sy'n cwmpasu hawliau tramwy cyhoeddus.