Prentisiaethau ar Agor Nawr!

Ydych chi'n chwilio am gyfle prentisiaeth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin? Mae gennym o gyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer prentisiaethau mewn amrywiaeth eang o rolau.

Rydyn ni'n cynnal sesiynau gwybodaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein lle gallwch chi ddysgu mwy am y gwahanol lwybrau prentisiaeth a gyrfa sydd gennym i'w cynnig yn eich maes dewisol.

Sesiynau Wyneb-yn-Wyneb

Dydd Llun, 16 Mehefin- Llyfrgell Rhydaman o 1pm - 6pm

Dydd Mawrth, 17 Mehefin - Llyfrgell Llanelli o 1pm - 6pm

Dydd Iau, 19 Mehefin - Llyfrgell Caerfyrddin o 1pm - 6pm

Sesiynau Arlein:

Dydd Mercher, 18 Mehefin - Ymunwch ar-lein am 6pm

Dydd Llun, 23 Mehefin – Ymunwch ar-lein am 1pm

Cofrestrwch yma ar gyfer y sesiynau arlein 

Yn ystod y sesiynau hyn, bydd rheolwyr wrth law i gwrdd â chi a dweud mwy wrthych am y prentisiaethau sydd ar gael. Bydd cymorth hefyd ar sut i wneud cais, y ffurflen gais a dysgu sut mae prentisiaethau yn gweithio a beth mae'r cymwysterau'n arwain ato.
Yn ogystal, bydd cyfle i glywed straeon gan bobl a oedd unwaith lle rydych chi nawr a chael cyngor ganddyn nhw.

Mae rhagor o fanylion am bob rôl ar gael yma

Croeso i Raglen Brentisiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin!

 

Ydych chi'n chwilio am her newydd neu eisiau newid gyrfa?

A ydych chi eisiau ennill cyflog wrth ddysgu? Os felly, mae prentisiaethau yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol a pharatoi ar gyfer byd gwaith. 

 

Prentisiaethau Amdani

Mae prentisiaeth yn gyfle i ennill cyflog, ennill profiad ymarferol a chyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a chael mynediad i fanteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Fel prentis, cewch eich mentora gan ein staff profiadol trabyddwch hefyd yn treulio cyfran o'ch amser cyflogedig yn mynychu hyfforddiant gyda'ch darparwr hyfforddiant i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cymhwyster.  Mae ein rhaglen brentisiaeth Amdani ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy'n dechrau yn eu gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa, nid oes terfyn oedran uchaf, ond efallai y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.

Rydym yn cynnig prentisiaethau ym meysydd Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, TGCh, Peirianneg Fecanyddol, AAT, Rheoli Adeiladu, ac amrywiaeth o brentisiaethau eraill felly cadwch lygad allan.

Fel prentis, mae cyfleoedd i ddefnyddio eich Cymraeg bob dydd drwy sgyrsiau gyda chwsmeriaid a’ch tîm ac ymgymryd â’ch dysgu’n ddwyieithog.

I gael rhagor o wybodaeth am Amdani, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae gwneud cais

 

Dewch i ymuno â Chyngor Sir Caerfyrddin fel Prentis Amdani ac ennill wrth i chi ddysgu.

Ewch i'n Tudalennau Swyddi a darganfod pa gyfleoedd prentisiaeth sydd gennym ar gael ar hyn o bryd.

 

Ewch i'n tudalennau Proses Recriwtio i gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais. 

 

 

 

Sut brofiad yw bod yn brentis, a lle gall fynd â chi? 

 


Callum

Swyddog Technegol


Emma

Prentis Cymorth Busnes


James

Brentis TG 

Connor

Prentis Cymorth Busnes


Amy

Prentis Cymorth Busnes

Hwb