Y Dreth Gyngor a'r Gyfraith: Yr hyn ddylech chi ei wybod
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/12/2025
Ers 1993, cynghorau lleol sy'n gyfrifol am gasglu'r Dreth Gyngor. Mae hon yn dreth a delir ar gartrefi yn ardal y cyngor.
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl 18 oed neu'n hŷn sy'n berchen ar gartref, yn rhentu neu'n byw mewn cartref dalu'r Dreth Gyngor. Mae rhai eithriadau.
Nid contract yw'r Dreth Gyngor. Nid ydych chi'n "cofrestru" ar ei gyfer. Mae'n helpu i dalu am wasanaethau yn yr ardal gyfan, fel casglu sbwriel, ffyrdd a llyfrgelloedd. Mae pawb sy'n talu'r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu'r gwasanaethau hyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan ac Llyw.Cymru.
Y Gyfraith a'r Dreth Gyngor
Dechreuodd y Dreth Gyngor yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Rheolau pwysig eraill yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992
Cafodd y deddfau hyn eu creu gan Senedd y DU, sef y prif gorff deddfu yn y DU. Oherwydd hyn, yn ôl y gyfraith rhaid talu'r Dreth Gyngor. Nid oes angen i chi gytuno na llofnodi contract er mwyn iddo fod yn berthnasol i chi.
Os nad ydych chi'n talu'r Dreth Gyngor, gall y cyngor gymryd camau gweithredu. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r swm llawn ar unwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud taliadau ychwanegol, ac mewn achosion hirdymor difrifol iawn, gallai peidio â thalu arwain at garchar.
Cwestiynau Cyffredin am y Dreth Gyngor
Mae'r cyngor yn cael cwestiynau a datganiadau amrywiol ynglŷn â'r Dreth Gyngor.
Mae'r cwestiynau a ofynnir yn aml ac atebion y cyngor i'r cwestiynau hyn isod:
Oes. Mae Senedd y DU yn cael ei hethol gan y cyhoedd ac yn gwneud deddfau ar gyfer y DU gyfan. Mae'r cyfreithiau hyn yn berthnasol i bawb yn y DU.
Oes, oherwydd bod hyn yn ofynnol gan y gyfraith. Nid contract yw'r Dreth Gyngor. Nid oes angen i chi lofnodi unrhyw beth, ac ni allwch wrthod talu oherwydd nad ydych chi'n cytuno ag ef.
Na. Mae'r Dreth Gyngor yn ariannu gwasanaethau lleol, ac mae'n rhaid i chi ei dalu hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno â pholisi'r llywodraeth.
Ydy. Mae'n dilyn y rheolau a nodir yn y cyfreithiau am y Dreth Gyngor. Rhaid i chi dalu'r swm ar y bil.
Oes. Rhaid i bob person yn y DU ddilyn cyfreithiau'r DU, gan gynnwys cyfreithiau'r Dreth Gyngor.
Nac oes. Nid yw eich enw neu sut rydych chi'n arddel eich hun yn newid eich dyletswydd i dalu'r Dreth Gyngor. Os yw eich enw yn anghywir ar y bil, dywedwch wrthym.
Nac ydy ac nac oes. Awdurdod lleol yw'r cyngor, nid cwmni preifat. Nid yw'r Dreth Gyngor yn cynnwys TAW.
Mae'r rhain yn dermau cyfreithiol a ddiffinnir yng nghyfraith y Dreth Gyngor. Bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch os ydych chi eisiau esboniad llawn.
Mae'r cyngor yn cyhoeddi hyn yn ei Ddatganiad Cyfrifon ac ar ein tudalen Hysbysiad y Dreth Gyngor. Mae arian sy'n mynd i sefydliadau eraill, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Chynghorau Tref a Chymuned, yn cael ei ddangos ar eich bil. Mae'r sefydliadau hynny'n cyhoeddi gwybodaeth am eu gwariant eu hunain.
Nac oes. Punnoedd Sterling yw arian cyfred swyddogol y DU yn ôl y gyfraith. Rhaid talu'r Dreth Gyngor mewn Punnoedd Sterling.
Nac oes. Yn ôl y gyfraith, y "tendr cyfreithiol" ar gyfer y ceiniogau hyn yw hyd at 20c. Nid yw'n ofynnol i'r Cyngor eu derbyn.
Nac ydy. Mae deddfau'r Dreth Gyngor yn dilyn y Ddeddf Hawliau Dynol ac yn cael eu hystyried yn deg ac yn gyfreithlon.
Na. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r cyngor gasglu'r Dreth Gyngor. Nid yw hyn yn fath o aflonyddu. Ni fydd llythyr gorchymyn ymatal yn stopio hyn.
Na. Mae anfon biliau'r Dreth Gyngor yn rhan o'i ddyletswydd gyfreithiol.
Oes. Mae cyfansoddiad y cyngor yn rhoi'r awdurdod i swyddogion anfon biliau a llythyrau.
Os na chaiff y Dreth Gyngor ei thalu, gall y cyngor wneud cwyn i’r Llys Ynadon. Yna mae'r llys yn cyhoeddi gwŷs i chi fynychu.
Nac ydy. Nid yw'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor roi'r gorau i weithredu oherwydd bod person yn dadlau ynghylch y bil.
Oes. Gall Llysoedd Ynadon wrando ar achosion y Dreth Gyngor a chyhoeddi gorchmynion atebolrwydd.
Nac oes. Caniateir stamp rwber neu lofnod mewn llythrennau bras o dan gyfraith y DU.
Nac ydy. Nid yw'r achos hwnnw'n canslo gorchmynion atebolrwydd. Maen nhw'n dal i fod yn ddilys ac yn gallu cael eu gorfodi.
Mae'r cyngor yn defnyddio eich data oherwydd bod ganddo ddyletswydd gyfreithiol i gasglu'r Dreth Gyngor. Caniateir hyn o dan Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU a Deddf Diogelu Data 2018. Gallwch ddarganfod rhagor am ddiogelu data ar ein tudalen diogelu data a'r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'ch data personol yn Hysbysiad Preifatrwydd y Dreth Gyngor.
Gellir. Nid oes rhaid i chi fod yn bresennol i'r llys wneud gorchymyn atebolrwydd.
Gallwch. Gallwch ofyn am un. Mae'r gorchymyn yn ddilys cyn gynted ag y bydd y llys yn ei wneud. Nid oes angen ei roi mewn cofrestr arbennig er mwyn ei orfodi.
Mae'r wybodaeth uchod at ddibenion cyfeirio’n unig. Nid yw'n gyngor cyfreithiol nac ariannol ac nid yw'n fwriad iddo fod yn gyngor o'r fath. Os nad ydych yn siŵr am ddeddfwriaeth y Dreth Gyngor neu'ch rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth y Dreth Gyngor, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol a/neu gyngor ariannol annibynnol eich hun.
