Dreth Gyngor

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu a chasglu'r Dreth Gyngor, ac wrth asesu cymhwysedd ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau, pan fyddwch yn gwneud cais amdanynt.  

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor. Gellir gosod cosbau am fethu â:

  • hysbysu'r Cyngor o fewn 21 diwrnod, heb esgus rhesymol, ar unrhyw fater sy'n effeithio ar hawl i ostyngiad yn y Dreth Gyngor
  • hysbysu'r Cyngor o fewn 21 diwrnod, heb esgus rhesymol, ar unrhyw fater sy'n effeithio ar hawl i eithriad Treth Gyngor
  • rhoi'r wybodaeth berthnasol yr ydym yn ei ofyn o fewn 21 diwrnod i ni er mwyn sefydlu atebolrwydd Treth Cyngor
  • darparu’r wybodaeth berthnasol y gofynnwn amdano ar ôl i'r Llys beri Gorchymyn Atebolrwydd. Gallai methu â darparu'r wybodaeth hon arwain at erlyniad troseddol a dirwy

Rydym yn prosesu gwybodaeth am erlyniadau ac euogfarnau am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd, hefyd ar sail y ddeddfwriaeth uchod.

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhyw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Gwybodaeth am eich Iechyd

Rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth am eich iechyd oherwydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y ddeddfwriaeth y cyfeirir ato uchod.

3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Swyddfa Brisio
  • Cofrestrfa Tir EM
  • Asiantaethau Gosod Preifat
  • Is-adran Gwasanaethau Tai y Cyngor
  • Asiantiaid Gorfodi
  • Cofrestru Etholiadol
  • Cofrestryddion  
  • Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
  • Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Rhyw
  • Rhif Cyfeirnod Unigryw
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad E-bost
  • Manylion Banc/Talu
  • Eich Teulu
  • Eich Amgylchiadau Ariannol
  • Manylion Cyflogaeth ac Addysg
  • Gwybodaeth am eich Iechyd
  • Copiau o ddogfennau adnabod

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein dogfennau electronig o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU.

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth pan fydd angen i ni wneud hynny yn unig.  Pan fyddwn ni'n rhannu gwybodaeth, rydym ym mhob achos yn darparu cyn lleied ag sydd ei angen i'r canlynol:

  • Is-adran Gwasanaethau Tai y Cyngor
  • Menter Twyll Genedlaethol
  • Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll y Cyngor
  • Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor i gynorthwyo gyda chofrestru pleidleiswyr
  • Gwasanaeth Parcio y Cyngor
  • Asiantiaid Gorfodi
  • Rheoli Adeiladu a Gwasanaethau Cynllunio, Iechyd Anifeiliaid, ein Adran Amgylchedd a Materion Defnyddwyr a Busnes, pan fydd angen i'r gwasanaethau hyn sefydlu enwau preswylwyr
  • Pensiynau a Chyflogres y Cyngor, pan fyddwch chi'n dewis talu Treth y Cyngor o'ch cyflog neu bensiwn
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • Rydym yn cymryd rhan mewn prosiect rhannu data a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannu eich gwybodaeth â'r cwmni sy'n cyflawni'r gwaith hwn (Polisi sydd ar waith).
  • Rydym yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda cwmni allanol o’r enw ‘Datatank’. Mae cwmni hwn yn coladu gwybodaeth ar ran ein adran Gwasanaethau Tai i asesu’r effaith Credyd Cynhwsyol ar ein tenantiaid, er mwyn i’r Cyngor ddarparu cymorth effeithiol.

Yn ogystal, rhennir data personol gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol at ddibenion ymchwil, o dan eu pwerau cyfreithiol i gael gwybodaeth wrth y Cyngor.

Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:

  • Pan fo'r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth
  • Pan fo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw

6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth cyhyd ag yr ydych yn atebol ar gyfer y Dreth Gyngor a 7 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn y mae'ch atebolrwydd yn dod i ben. Mae hyn yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

  • Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
  • Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
  • Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
  • Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

  • Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
  • Dileu eich data personol
  • Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyngor a Democratiaeth