Rydyn ni'n datblygu cynlluniau creu lleoedd newydd i helpu i lunio dyfodol canol ein trefi ac rydyn ni am i'ch syniadau fod yn ganolog iddynt. Rydyn ni’n eich gwahodd i rannu eich adborth drwy'r ymgynghoriad ar-lein.
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn cynnwys arolwg busnes eleni.
Mae ein harolwg busnes yn rhoi adborth uniongyrchol i ni ar y blaenoriaethau a'r heriau i chi’n eu hwynebu fel perchnogion busnes sy'n gweithredu yn y sir.
Rydyn ni am gael eich barn am ein perfformiad ac i sicrhau bod ein cynllunio at y dyfodol a'n blaenoriaethau yn cyd-fynd â'r hyn sydd ei angen. Bydd y canfyddiadau pwysig hyn yn cael eu rhannu ar bob lefel o'r sefydliad i lunio ein penderfyniadau ar adeg heriol.
Caerfyrddin: Neuadd Sant Pedr, 27 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Rhydaman: Neuadd y Pensiynwyr, 28 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Llanelli: 1 Rhodfa Stepney, 29 Hydref - 12:00yp i 7:00yp
Dweud eich dweud