Adnewyddu Canol Trefi

Cymhwysedd

Mae cymhwysedd yn ddibynnol ar y canlynol:
Bydd ceisiadau o fewn yr ardaloedd cyflawni diffiniedig (o fewn y llinellau coch) yn nhrefi Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Phorth Tywyn yn cael eu hystyried ar gyfer y gronfa. Bydd eiddo o’r tu allan i’r ffiniau yn cael eu hystyried fesul achos.
Bydd yr adeilad sy'n destun y cais yn cael ei asesu i sicrhau y byddai'r gwaith arfaethedig drwy'r grant yn gwella esthetig gweledol yr adeilad.
Dim ond perchnogion y rhydd-ddaliad neu denantiaid sydd â chyfnod o saith mlynedd yn weddill ar y brydles o ddyddiad cwblhau arfaethedig y cynllun fydd yn gallu cael cyllid ar gyfer gwaith i'r eiddo. Bydd yn rhaid i lesddeiliaid gael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu ar ôl ei gwblhau i fodloni'r amcan o leihau cyfraddau eiddo gwag yng nghanol y trefi.
Rhaid i bob derbynnydd a thenant terfynol fod yn hyfyw yn economaidd ac yn ariannol.