Adnewyddu Canol Trefi

Osgoi gwrthdaro buddiannau

Gallai ymgeiswyr prosiect, neu unigolion sy’n gysylltiedig â nhw (megis perthnasau, partneriaid busnes neu gyfeillion), ddymuno tendro am gontract sy’n cael ei gynnig gan ymgeisydd y prosiect. Nid yw hyn yn annerbyniol, ond bydd angen i'r ymgeisydd sicrhau ei fod yn cynnal y trafodyn mor agored ac mor dryloyw â phosibl. 
Os oes gan yr ymgeisydd, neu unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig ag ef, fuddiant mewn unrhyw gynnig posibl am gontract a gynigir:
  • Ni ddylai'r ymgeisydd fod yn rhan o unrhyw ran o'r broses asesu dyfynbrisiau h.y. agor a dewis cyflenwyr a ffefrir.
    • Os bydd unrhyw achos o wrthdaro buddiannau yn codi, rhaid cyfeirio dyfynbrisiau i Trefi@sirgar.gov.uk
  • Dylai'r ymgeisydd ystyried sut y dylid cymhwyso ei ganllawiau caffael i sicrhau nid yn unig bod y weithdrefn yn deg i bob ymgeisydd ond y gellir ei gweld felly hefyd.
  • Dylid cofnodi pob cam yn y weithdrefn yn ffurfiol a chadw'r cofnodion ar ffeil a'u darparu i'w harchwilio.