Adnewyddu Canol Trefi
Gwaredu asedau
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd sicrhau caniatâd ysgrifenedig gan y Cyngor Sir ynghylch gwaredu'r eiddo neu newid y tenant terfynol o fewn 5 mlynedd o ddyddiad y taliad grant terfynol.
Bydd y Cyngor Sir yn ceisio cofrestru buddiant yn yr eiddo y derbyniwyd cymorth ariannol ar ei gyfer gyda'r Gofrestrfa Tir, naill ai drwy gyfyngiad neu bridiant cyfreithiol. Yn achos tir heb ei gofrestru lle nad oes opsiwn i osod cyfyngiad, mae'n bosibl y bydd angen pridiant cyfreithiol ar bob achlysur. Drwy'r broses hon, bydd y Cyngor Sir yn cael gwybod am unrhyw newid ym mherchnogaeth neu les yr eiddo.
Bydd y Cyngor yn dymuno sicrhau na cheir unrhyw newid i'r gwaith y derbyniwyd cymorth grant ar ei gyfer, ac ni fydd yn dal unrhyw ganiatâd yn ôl yn afresymol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd yn gofyn i'r grant gael ei ad-dalu'n rhannol neu yn ei gyfanrwydd a phenderfynir ynghylch hyn gan ymgynghori â Llywodraeth y DU.
Ni fydd y Cyngor yn atal cymeradwyaeth o'r fath yn afresymol ond gall ei gwneud yn ofynnol i'r grant gael ei ad-dalu'n rhannol yn unol â'r canlynol:
Dyddiad gwaredu'r ased(au) | Y swm sydd i'w ad-dalu |
O fewn 1 flwyddyn | Cyllid i'w ad-dalu'n llawn |
O fewn 2 flynedd | Ad-dalu 80% o'r cyllid |
O fewn 3 blynedd | Ad-dalu 60% o'r cyllid |
O fewn 4 flynedd | Ad-dalu 40% o'r cyllid |
O fewn 5 mlynedd | Ad-dalu 20% o'r cyllid |
Ar ôl 5 mlynedd | Dim cyllid i'w ad-dalu |
Yr uchod yw'r isafswm y mae'n rhaid ei ad-dalu.