Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
3. Cymhwysedd
Mae Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gâr yn cael ei hariannu a'i darparu gan Gyngor Sir Gâr ac felly mae ond ar gael i fusnesau newydd neu fusnesau presennol o fewn y sectorau cymwys sydd wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin neu sy'n bwriadu lleoli yn Sir Gaerfyrddin.
Mae cymorth wedi'i anelu'n bennaf at fusnesau sy'n bodoli eisoes, yn gweithredu yn neu’n gwasanaethu y sectorau twf a sylfaen canlynol:
- Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu
- Adeiladaeth
- Diwydiannau Creadigol
- Ynni a'r Amgylchedd
- Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
- Technoleg Gwybodaeth a Thelegyfathrebu
- Gwyddorau Bywyd
- Bwyd a Diod
- Twristiaeth
- Mân-werthu
- Gofal
Mae cymorth hefyd ar gael i fentrau cymdeithasol.
Fodd bynnag, nid yw'r sectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth:
- cynhyrchu amaethyddiaeth sylfaenol
- coedwigaeth
- dyframaethu
- pysgota a
- gwasanaethau statudol, e.e., iechyd ac addysg.
Fodd bynnag, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos yn amodol ar eu cyfraniad a'u gwerth posibl i'r economi leol a'u hymrwymiad i ddatgarboneiddio.
Rhaid i chi naill ai:
- Bod yn berchen ar y rhydd-ddaliad, neu
- Dal prydles gydag cyfnod byrraf o saith mlynedd yn weddill ar ôl dyddiad talu’r grant terfynol. Bydd angen i chi sicrhau caniatâd ysgrifenedig eich landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Er mwyn ichi fedru ymgeisio mae’n rhaid i adeilad eich busnes fod wedi ei gofrestru ar gofrestr trethi annomestig Cyngor Sir Caerfyrddin.
Ni allwch wneud cais am gyllid i gefnogi gwaith yr ydych eisoes wedi’i ddechrau. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn gynnar i drafod unrhyw gynigion.
Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau o bob maint sy'n anelu at weithredu eu haddewid twf gwyrdd.
Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo. Bydd canlyniadau’r busnes a’r cynllun cyllid yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau ymroddedig arwain at dynnu cronfeydd grant yn ôl.
Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Gâr yn cadw'r hawl i fonitro a chynnal tystiolaeth am 1, 3 a 5 mlynedd ar ôl derbyn cais am grant. Darlleniadau mesur cynhyrchu ynni adnewyddadwy i’w cymryd yn flynyddol gan yr ymgeisydd a’u darparu fel rhan o’r broses fonitro hon.