Trawsnewid Tyisha - Cyfle Datblygu
7. Cyfleoedd datblygu
Mae pum cyfle datblygu unigryw ar draws ward Tyisha:
- Safle 1 - Ysgol Lakefield
- Safle 2 - Y Pedwar Tŷ
- Safle 3 - Ysgol Copperworks
- Safle 4 - Clos Sant Paul
- Safle 5 - Maes parcio'r orsaf reilffordd
Mae'r safleoedd datblygu yn cynnwys tir ac adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor sy'n ymestyn trwy Heol yr Orsaf ac yn ymestyn i ffwrdd i strydoedd cyfagos.
Rydym yn croesawu cynigion sy'n dangos sut y gellid dylunio a gwella pob safle datblygu, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y prosiect yn ogystal â dyheadau ac anghenion y gymuned.

Mae Ysgol Maesllyn, a adeiladwyd yn 1880, yn hen ysgol gynradd yng nghanol ardal breswyl yn Nhyisha.
Mae'r safle lai na 2 funud o orsaf reilffordd Llanelli a 4 munud o ganol y dref.
Mae Ffordd Lakefield yn ardal â pherchnogion tai a llety rhentu preifat yn bennaf, gyda chymysgedd o deuluoedd a phobl hŷn.
Cynhaliwyd arolwg yn 2022 ynghylch dyfodol Ysgol Maesllyn. Roedd 47% o'r gymuned eisiau i'r safle gael ei ddefnyddio ar gyfer tai ac roedd y rhan fwyaf eisiau llety sydd wedi'i addasu neu'n hygyrch.
Ffordd Lakefield, Llanelli, SA15 2TS
- 2460 m2
- 51°40'37.6"N 4°09'55.6"W
- Dwy lawr
- Adeiladau allanol ar y safle
- Nid yw’n adeilad rhestredig
Roedd safle y Pedwar Tŷ yn cynnwys pedwar bloc bach (Tŷ Meriel, Tŷ Elizabeth, Tŷ Howard a Thŷ Cydwel) a adeiladwyd yn y 1950au. Roeddent yn cynnwys fflatiau un ystafell wely a maisonettes tair ystafell wely. Yn 2021 cafodd y pedwar bloc eu dymchwel.
Maes y Gors, Llanelli, SA15 2TS
- tua 15750 m2
- 51°40'34.2"N 4°09'44.6"W
- Un funud o'r orsaf reilffordd
- Safle wedi'i ddymchwel
- Pedair munud o ganol y dref
Mae Ysgol Copperworks wedi'i lleoli rhwng Stryd Nevill a Heol Glanmor ac yn cefnu ar safle datblygu'r Pedwar Tŷ. Adeiladwyd yr ysgol ym 1847 ac mae'n un o'r ysgolion hynaf yn ardal Llanelli.
Yn 2022, cynhaliwyd arolwg i ofyn i'r gymuned am eu barn ynghylch dyfodol y safle. Byddai'n well gan y rhan fwyaf o'r gymuned i'r ardal gael ei defnyddio ar gyfer tai, canolfan gymunedol a lle chwarae. Rhaid ystyried defnydd y safle yn y dyfodol, gan ymgorffori dyheadau'r gymuned yn ogystal â threftadaeth, pensaernïaeth a dyluniad yr adeilad.
Stryd Nevill, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2RS
- tua 3950 m2
- 51°40'29.6"N 4°09'45.7"W
- Nid yw’n adeilad rhestredig
Wedi'i leoli yn Heol yr Orsaf, mae Clos Sant Paul yn cynnwys 36 o fflatiau un a dwy ystafell wely. Adeiladwyd y bloc yn y 1980au ynghyd â thai eraill ac fe'i defnyddiwyd fel llety cymdeithasol a llety â chymorth yn ogystal â swyddfeydd.
Clos Sant Paul, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 1GZ
- tua 2900 m2
- 51°40'33.9"N 4°09'39.5"W
- Tair lefel
- Nid yw’n adeilad rhestredig
Cyfle anarferol i drawsnewid y maes parcio presennol naill ai'n ddatblygiad preswyl, masnachol neu ddefnydd cymysg.
Mae trafodaethau a dyheadau blaenorol ar gyfer y safle hwn wedi cynnwys creu porth arall sy'n cysylltu'r rhai sy'n gadael yr orsaf drwy'r maes parcio ac i Deras Gathen ac ar draws tuag at safle'r Pedwar Tŷ.
Cilgant Great Western, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2RL
- tua 950 m2
- 51°40'29.6"N 4°09'45.7"W